Mae pobol sy’n byw â chlefyd niwronau motor wedi croesawu pleidlais yn y Senedd o blaid cyflwyno proses gyflym nad yw’n seiliedig ar brawf moddion i addasu cartrefi cleifion yng Nghymru.

Cafodd y ddadl ei chyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig a’i harwain gan Peter Fox, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros etholaeth Mynwy.

Daw’r bleidlais â’r system hirwyntog bresennol i ben.

“Mae’n gywilyddus fod pobol sy’n byw â chlefyd niwronau motor ledled Cymru wedi bod yn dod yn gaeth mewn cartrefi nad oedden nhw’n hygyrch oherwydd fod y broses yn rhy araf ac yn eu hatal nhw rhag cael y gefnogaeth angenrheidiol mewn da bryd,” meddai Peter Fox wrth ymateb i’r bleidlais.

“Diolch byth ein bod ni wedi cymryd cam yn nes at ddod â’r system gymhleth ac annheg hon i ben.

“Mae prosesau eraill i ni eu cymryd o hyd, ond gall Cymru fod yn falch ein bod ni’n agos at sicrhau bod gan y rhai sy’n byw â chlefyd niwronau motor fywyd o’r ansawdd gorau posib.”

‘Newyddion arbennig’

Mae Pat Morton, sy’n byw yng Nghil-y-coed ac yn byw â chlefyd niwronau motor, wedi croesawu’r bleidlais.

“Mae hyn yn newyddion arbennig i’r rheiny, fel fi, sydd â chlefyd niwronau motor,” meddai.

“Rydym yn gwybod fod y cyflwr yn effeithio’r ymennydd a llinyn y cefn, sy’n golygu bod y broses bresennol o gael addasu eich cartref jyst yn cymryd yn rhy hir.

“Alla i ddim pwysleisio digon gymaint mae’r penderfyniad heddiw i’w groesawu.”

‘Cartrefi anniogel ac anhygyrch’

Mae Sian Guest, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru Elusen Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, wedi diolch i Aelodau o’r Senedd am bleidleisio o blaid y drefn newydd.

“Rydym yn croesawu’r penderfyniad heddiw lle’r ydym yn agos at gyflawni ein nod o ddod â system i ben sy’n gymhleth, anghyfiawn ac anghyfartal sydd, a dweud y gwir, wedi gadael pobol â chlefyd niwronau motor mewn cartrefi anniogel ac anhygyrch,” meddai.

“Mae datblygiad cyflym yr afiechyd yn arbennig o greulon, a dyna pam fod mawr angen proses gyflym newydd nad yw’n seiliedig ar brawf moddion ar gyfer addasu cartrefi.

“Gan bawb yn Elusen Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, rydym yn diolch i bawb a bleidleisiodd i gefnogi’r ddadl hon.”