Mae gan etholwyr yr hawl i ethol aelodau seneddol hiliol a gwreig-gasaol, yn ôl un cyn-weinidog Ceidwadol yn San Steffan.
Dywed Syr Desmond Swayne ei fod yn gobeithio na fyddai ei etholwyr yn ethol pobol sydd â’r fath safbwyntiau, ond fod perffaith hawl ganddyn nhw wneud hynny.
Daw ei sywladau wrth iddo godi amheuon ynghylch diwygidio safonau posib, ar ôl i bwyllgor safonau San Steffan awgrymu y dylai aelodau seneddol orfod cadw at y cod ymddygiad seneddol ac “arddangos agweddau ac ymddygiad gwrth-wahaniaethu drwy hybu gwrth-hiliaeth, cynhwysiant ac amrywiaeth”.
“Byddai dadl yn dipyn o gymorth o fewn amser y Llywodraeth oherwydd mae rhai o agweddau’r adroddiad, megis ymestyn posib ar ddyfarniad swyddog i’r hyn sy’n digwydd wrth lobïo ac mewn pwyllgorau dethol, yn cyffwrdd ar egwyddorion y Bil Hawliau nad oes modd i unrhyw beth yn y Senedd gael ei gwestiynu yn unman nac yn unrhyw lys ac eithrio’r Senedd ei hun,” meddai Aelod Seneddol Gorllewin y New Forest.
“Yn wir, mae egwyddor democratiaeth wedi’i danlinellu gan y gofyn y gall fod angen i ni ymddwyn mewn ffordd arbennig i hybu agweddau penodol.
“Gobeithio na fydd fy etholwyr fyth yn ethol rhywun hiliol na gwreig-gasaol, ond mae ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny.”