Mae albwm Gary Barlow, sy’n cynnwys un o ganeuon Al Lewis, wedi cyrraedd rhif pump ar ddiwedd ei wythnos gyntaf yn y siartiau Prydeinig.

Mae ‘A Child’s Christmas in Wales’, fersiwn Saesneg o ‘Clychau’r Ceirw’ yn un o’r caneuon ar yr albwm ‘The Dream of Christmas’, ac mae’n ddeuawd gydag Aled Jones.

Mae’r fersiwn Saesneg hefyd wedi cadw pennill Cymraeg o’r gân Nadoligaidd wreiddiol, gyda Gary Barlow yn cyd-ganu’r llinellau olaf:

“Llond y lle o rannu gwên

Aiff y teimlad byth yn hen

Mae Santa Clôs ’di bod

Mae Santa Clôs ’di bod.”

Daw’r pennill i ben gyda’r geiriau “He’s calling out for Christmas”.

Dyma’r tro cyntaf i Gary Barlow greu albwm Nadoligaidd, ac mae’n gyfuniad o ganeuon newydd ac addasiadau o ganeuon eraill.

Ymhlith y cantorion a cherddorion eraill sy’n ymddangos ar yr albwm mae Sheridan Smith a’r chwaraewr soddgrwth Sheku Kanneh-Mason.

Bydd Gary Barlow ar daith y mis hwn yn arwain at y Nadolig, gan gynnwys dwy noson yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd nos fory (nos Sul, Rhagfyr 5) a nos Lun (Rhagfyr 6).

Bydd e wedyn yn mynd â’r daith, lle bydd e’n canu’r gân newydd, i Nottingham, Manceinion, Birmingham, Leeds, Lerpwl, Bournemouth, yr O2 yn Llundain a Newcastle.

Roedd disgwyl i’r daith gael ei chynnal yn yr haf, ond cafodd ei gohirio yn sgil y pandemig, ac fe fydd yn gyfle i glywed caneuon o’i dri degawd yn un o brif gyfansoddwyr ac artistiaid cerddorol y Deyrnas Unedig, a ddechreuodd fel aelod o’r band Take That.