Bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.
Daw’r cyhoeddiad gan yr Urdd yn sgil cadarnhad y bydd y mudiad yn derbyn £527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu mynediad am ddim ym mlwyddyn y canmlwyddiant.
Cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio ddwywaith yn sgil y pandemig, ond bydd hi’n cael ei chynnal rhwng Mai 30 a Mehefin 4 y flwyddyn nesaf.
O ganlyniad i sefyllfa’r pandemig, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn bwriadu cynnal cyfanswm o dros 220 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth heb gynulleidfaoedd yn y gwanwyn.
Bydd cystadlaethau llwyfan i’r aelodau rhwng 19 a 25 oed yn mynd yn syth i’r Genedlaethol yn Ninbych.
‘Uchafbwynt diwylliannol’
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei fod yn “falch iawn o gefnogi’r ŵyl wych” hon drwy gyhoeddi y bydd mynediad am ddim i’r Eisteddfod yn 2022.
“Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobol â phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu a dathlu canfed blwyddyn y mudiad,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’n dyst i waith yr Urdd bod cymaint o oedolion ag atgofion melys o’u profiad o fynychu’r Eisteddfod a chystadlu pan oedden nhw’n iau.
“Mae Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i’n plant a’n pobol ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.”
‘Gŵyl i bawb’
Wrth ddiolch i Jeremy Miles am gadarnhau’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, mai eu gobaith yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr “o bob cwr o Gymru”.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles AS am gadarnhau y bydd hi’n bosibl i ni gynnig mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022,” meddai.
“Hwn fydd y digwyddiad celfyddydol cenedlaethol mwyaf i blant a phobol ifanc Cymru ers cychwyn y pandemig, a bydd cynnig mynediad am ddim yn ei gwneud yn ŵyl i bawb.”
“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn sefydliad cynhwysol sy’n agored i blant a phobol ifanc o bob cefndir,” meddai Siân Lewis wedyn.
“Ein gobaith yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys o ardaloedd difreintiedig.”
‘Hen edrych ymlaen’
Mae cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2022 yn agor heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 7), ac felly mae’r cyhoeddiad yn un “amserol iawn, ac yn golygu y gall unigolion, ysgolion ac Aelwydydd fynd ati i ddechrau trefnu a phenderfynu ar gystadlaethau”, meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.
“Mae plant a phobol ifanc wedi colli allan ar gymaint o brofiadau celfyddydol oherwydd Covid, felly mae hen edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar ôl gorfod gohirio ers dwy flynedd,” meddai Siân Eirian.
“Mae’r gefnogaeth gan wirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Ddinbych wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’r cydweithio dros y misoedd nesaf i wneud Eisteddfod y canmlwyddiant yn un i’w chofio.”
Yn sgil y gohirio, mae’r Urdd yn bwriadu cynnal Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn 2023, ac Eisteddfod Maldwyn yn 2024.