Mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi rhai o’u digwyddiadau byw ar gyfer 2022.

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’r dref flwyddyn nesaf, ar ôl dwy flynedd o seibiant yn ystod y pandemig.

Ymysg y perfformwyr fydd yn ymddangos yno mae’r cantorion byd-enwog, Aled Jones a Russell Watson, a fydd yn canu gyda’i gilydd mewn cyngerdd arbennig ar ddydd Iau, Gorffennaf 7.

Mae’r ŵyl yn denu hyd at 50,000 o bobol y flwyddyn, gyda pherfformwyr fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Luciano Pavarotti yn ymddangos yno dros y blynyddoedd.

Ac eleni bydd yr Eisteddfod yn dathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu yn 1947.

‘Newyddion cyffrous’

Fe gyhoeddodd trefnwyr Eisteddfod Llangollen y newyddion ar eu tudalen Twitter.

“Fe wnaethon ni addo newyddion cyffrous a dyma ni,” medden nhw.

“Ar ôl dwy flynedd heb wyliau byw, byddwn ni’n ôl yn 2022 ac yn dathlu ein 75 mlwyddiant.

“Byddwn ni’n cynnal y gymysgedd arferol o gyngherddau, cystadlaethau, ac adloniant anhygoel ar gyfer yr holl deulu.”

Bydd cystadleuaeth nodweddiadol Côr y Byd hefyd yn dychwelyd ar gyfer dydd Sadwrn yr ŵyl (9 Gorffennaf, 2022), gydag Anoushka Shankar a Manu Delago yn perfformio ar y nos Wener (8 Gorffennaf, 2022).