Mae gig y Stereophonics, Syr Tom Jones a Catfish and The Bottlemen yn Stadiwm Principality Caerdydd ym mis Rhagfyr wedi’i ohirio.

Daw hyn ar ôl ymgynghori â Llywodraeth Cymru yn sgil cynnydd mewn achosion o Covid a’r amrywiolyn Omicron.

Mae’r ddau berfformiad yn cael eu haildrefnu ar gyfer 17 a 18 Mehefin 2022.

Bydd yr holl docynnau ar gyfer y sioeau gwreiddiol yn parhau’n ddilys.

Bydd Syr Tom Jones a Catfish and The Bottlemen ill dau yn perfformio yn sioeau Mehefin 2022 – gyda mwy o westeion arbennig i’w cyhoeddi.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Stadiwm Principality a Kilimanjaro Live: “Rydym wedi bod yn cydweithio drwy gydol y broses o gyflwyno’r sioeau hyn ac rydym wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf ar ganllawiau cyfredol a gofynion cyfreithiol ynghylch gorchuddion wyneb.

“Yn anffodus, wrth i fygythiad amrywiolion newydd ddod i’r amlwg a’r cyfyngiadau sydd ar waith fel ‘lleoliad dan do’, mae’r sioeau’n amhosibl eu rhedeg yn ddiogel a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau’r Llywodraeth a chyfraith Cymru.

“Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch a lles cefnogwyr a’r holl staff sy’n gweithio yn y sioeau hyn, yn ogystal â’r gallu i ddarparu profiad cefnogwyr rhagorol.

“Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy’n esblygu, mae Stadiwm Principality a Kilimanjaro Live wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio’r sioeau i’r flwyddyn nesaf ar 17 a 18 Mehefin.

“Rydym yn gwneud y penderfyniad hwn nawr i sicrhau bod gan y bobl sydd am ddod yr amser mwyaf posibl i newid eu cynlluniau yn unol â hynny.

“Ymddiheurwn i’r holl gefnogwyr, artistiaid a’u criwiau am unrhyw anghyfleustra, ond edrychwn ymlaen at fod yn ôl ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.”

Roedd y band o Gwm Cynon wedi wynebu beirniadaeth am chwarae dwy gig yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2020 ychydig ddyddiau cyn i Gymru ddechrau ar ei gyfnod clo cyntaf.

Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru mai’r cyngor ar iechyd y cyhoedd oedd “nad oedd angen canslo digwyddiadau torfol”.

“Creu atgofion”

Dros y ddau ddegawd diwethaf mae Stereophonics wedi chwarae yn rhai o’r lleoliadau mwyaf ledled y byd, gan ryddhau saith albwm rhif 1, deg albwm 10 uchaf, 23 o Wobrau Gwerthiant Platinwm, 5 enwebiad BRIT ac 1 wobr Brit.

Dywedodd Kelly Jones, canwr a gitarydd y Stereophonic: “[Safle] Stadiwm Principality yw’r lle y gwelais fy gig gyntaf gyda fy mrodyr hŷn yn gwylio’r Rolling Stones yn 1989 yn hen Barc yr Arfau.

“Ar ôl bron i ddwy flynedd o gyfnodau clo roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth i’r Cymry fwynhau.

“Felly, gofynnais i’n ffrindiau da i ymuno â ni.

“Mae Tom yn ddyn sydd wedi rhannu llwyfan gyda phawb yn y byd cerddorol, dw i wedi cael rhai o nosweithiau gorau fy mywyd gydag ef a dwi’n siŵr y bydd hon yn un arall!

“A dwi wastad wedi bod wrth fy modd gyda Catfish And The Bottlemen – mae Van [McCann] wastad wedi bod yn ffan mawr ohonom ni ers ei fod yn blentyn.

“Mae ’na groeso i bawb yn y stadiwm, dewch i godi gwydryn a chreu atgofion.”