Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi galw am newidiadau er mwyn amddiffyn dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Fe wnaeth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adleisio a chymeradwyo galwad Ofcom am newid y rheolau i sicrhau bod cynnwys yn cael ei “foderneiddio” mewn “oes o drawsnewid digidol”.

Mae adroddiad wedi ei lunio gan y Pwyllgor yn ategu argymhellion Ofcom i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn galw arnyn nhw i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar frys, er mwyn diweddaru amcanion a rheolau’r system ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus bresennol.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu hystyried a’u cynnwys wrth ffurfio unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Roedden nhw hefyd yn argymell bod cyllid teg yn cael ei roi ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, fel eu bod nhw’n gallu parhau â gwasanaethau newyddion dibynadwy a rhoi sylw i ddigwyddiadau diwylliannol cenedlaethol.

Rôl S4C

Dywed Delyth Jewell, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, fod angen ystyried pwysigrwydd S4C wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn y dyfodol.

“Mewn byd digidol sy’n newid yn barhaus, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu sawl her,” meddai.

“Mae’r Pwyllgor o’r farn y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rheoleiddiwr cryf, annibynnol, chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod deddfwriaeth yn cefnogi darlledwyr i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y trawsnewid mewn arferion gwylio.

“Rhaid i ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi ystyried y rôl unigryw sydd gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wrth gomisiynu cynnwys ac adlewyrchu diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

“Dylai rhanbarthau a chenhedloedd y Deyrnas Unedig fod yn rhan ganolog o’r trafodaethau ar ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil yr oes ddigidol, a dylid rhoi sylw arbennig i rôl S4C o ran hyrwyddo’r Gymraeg.”

Owen Evans: ‘Cryfhau perthynas S4C gyda Llywodraeth Prydain yn bwysig’

Jacob Morris

“Treuliais lot o amser yn mynd i Lundain yn magu perthnasau gyda swyddogion yr Adran Ddiwylliant, Digidol a Chwaraeon”