Mae 70% o wylwyr ar draws y byd yn credu bod Prydeindod yn arwydd o safon rhaglenni teledu a ffilmiau, yn ôl ymchwil ar ran Adran Ddiwylliant San Steffan.

Roedd yr adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Gronfa Sgrîn y Byd y Deyrnas Unedig yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn edrych ar effaith a dyfodol y diwydiant sgrîn.

Dywedodd 30% o oedolion a gafodd eu holi fod ffilm a theledu’n dylanwadu ar eu barn am y wlad, tra bod 66% yn dweud iddyn nhw ymweld â’r Deyrnas Unedig ar ôl gweld lleoliadau nodedig ar y sgrîn.

Daeth yr adroddiad, a gafodd ei weinyddu gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI), i’r casgliad bod gan y diwydiant sgrîn gryn bresenoldeb yn fyd-eang a bod ganddo enw da ar draws y byd, gydag emosiwn a synnwyr digrifwch ymhlith ei gryfderau.

Cryfder arall yw fod rhaglenni a ffilmiau’n ddiwylliedig, yn ddeallus ac yn real, ond roedd rhai yn teimlo bod cynnwys y Deyrnas Unedig yn llai cyffrous a heb risgiau.

Yn ôl yr adroddiad, mae gan bobol ifanc, amrywiol ar y sgrîn y potensial i greu ymdeimlad cyfoes a ffres.

Ceisiodd yr arolwg farn pobol o 15 o wledydd tramor, gan fanteisio ar grwpiau ffocws, y cyfryngau cymdeithasol a holiadur ar-lein i gael atebion o blith mwy na 15,000 o bobol.

£1.32m i naw cyd-gynhyrchiad arall

Mae Adran Ddiwylliant San Steffan wedi cyhoeddi y bydd naw cyd-gynhyrchiad arall yn derbyn cyfran o’r gronfa o £1.32m sy’n dod o gyfanswm o £7m Cronfa Sgrîn Byd-eang y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei gweinyddu gan y BFI.

Ymhlith y cynyrchiadau hynny mae The Miracle Club (Maggie Smith, Kathy Bates a Laura Linney), yn ogystal â The Tutor a Ghastly Ghoul.

“Pan ddaw i greadigrwydd ac adrodd straeon, mae’r Deyrnas Unedig yn gyson yn cynhyrchu doniau a chynnwys rhagorol ac mae’r adroddiad hwn yn tanlinellu pa mor ddylanwadol yw sectorau ffilm, teledu a gemau’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan byd-eang,” meddai Neil Peplow, cyfarwyddwr rhyngwladol y BFI.

“Mae gennym gyfle enfawr nawr i adeiladu ar yr enw da hwn a dangos yr ehangder, amrywiaeth ac arloesedd y gallwn eu cynnig i gynulleidfaoedd, a chefnogi ein busnesau sgrîn i lwyddo’n rhyngwladol.”