Mae dros 12,000 o bobol wedi anfon cwynion at Ofcom yn gwrthwynebu’r defnydd o anifeiliaid byw ar y gyfres I’m a Celebrity… Get Me Out of Here!
Mae mwy o bobol wedi cwyno i’r rheoleiddiwr darlledu eleni na wnaeth y llynedd, pan roedd y rhaglen yn cael ei ffilmio am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru.
Dywed elusen gwarchod anifeiliaid yr RSPCA eu bod nhw “wedi eu syfrdanu” gyda lefel y gefnogaeth i’w hymgyrch, sy’n pwysleisio’r pryderon am y ffordd mae anifeiliaid yn cael eu defnyddio yn y gyfres ar ITV.
Mae arbenigwyr o’r elusen wedi bod yn monitro’r rhaglen eleni ac eisoes wedi gweld anifeiliaid byw fel llygod, nadredd a madfallod yn cael eu defnyddio yn eitem nodweddiadol y sioe, y ‘Bushtucker Trials’.
Maen nhw hefyd yn nodi bod straen sylweddol ar anifeiliaid, a’u bod nhw’n cael eu trin yn amhriodol gan y cystadleuwyr.
‘Bychanu bywydau’r anifeiliaid’
“Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan ymateb y cyhoedd i’n hymgyrch yn erbyn defnyddio anifeiliaid byw yn y sioe ‘I’m a Celeb‘,” meddai Dr Ros Clubb o’r RSPCA.
“Mae mwy na 12,000 eisoes wedi ysgrifennu at Ofcom i fynegi pryder – gyda’r ymateb gan y cyhoedd hyd yn oed yn gryfach na’r llynedd, pan gafodd y rhaglen ei ffilmio yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf.
“Unwaith eto, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae llawer o anifeiliaid byw wedi cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd a fyddai’n peryglu eu lles am ddim mwy nag adloniant pitw – ac unwaith eto rydyn ni wedi bod yn poeni’n fawr am yr hyn rydyn ni wedi’i weld.
“Mae gwahanol rywogaethau wedi’u cymysgu mewn sefyllfaoedd dirdynnol, mae anifeiliaid wedi’u rhoi mewn lleoedd cyfyng ochr yn ochr â’r enwogion mewn panig, ac mae miloedd o bryfed ac ati wedi’u tywallt ar ben gwersyllwyr ac mewn perygl o gael eu gwasgu.
“Mae’r ffordd y mae pryfed ac anifeiliaid eraill yn cael eu defnyddio hefyd yn bychanu bywydau’r anifeiliaid hyn – ar adeg pan mae dadleuon ynghylch synhwyrau anifeiliaid yn fwy amlwg yn y gymdeithas nag erioed o’r blaen.”
‘Diweddaru, ail-feddwl, a moderneiddio’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fin pasio deddf sydd am roi mwy o gydnabyddiaeth i hawliau anifeiliaid yn y gyfraith, ac mae galwadau ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un fath hefyd.
Mae’r RSPCA eisoes wedi ysgrifennu at y cwmni cynhyrchu sydd yn gyfrifol am y sioe, yn eu hannog i beidio â defnyddio anifeiliaid byw, a diddanu’r cyhoedd mewn ffyrdd gwahanol.
“Rydyn ni’n parhau i alw ar y rhai y tu ôl i’r rhaglen hon i ddiweddaru, ail-feddwl a moderneiddio – fel bod anifeiliaid ddim yn cael eu rhoi yn y sefyllfaoedd hyn mwyach.
“Mae’r ymateb i’n hymgyrch yn dangos bod nifer enfawr o bobl ledled y Deyrnas Unedig yn cytuno â ni.”