Mae sêr y gyfres FFIT Cymru wedi llwyddo i golli cyfanswm o 15 stôn ac un pwys rhyngthyn nhw mewn ychydig dros chwe mis.

Fe gychwynnodd y pum arweinydd ar eu taith i drawsnewid eu cyrff a’r ffyrdd o fyw ym mis Ebrill eleni, a dros gyfnod o saith wythnos, fe wnaethon nhw gael eu ffilmio yn dilyn cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbenigol.

Dan ofal yr hyfforddwr personol, Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke a’r seicolegydd Dr Ioan Rees, llwyddodd y pum arweinydd i golli naw stôn yn ystod y cyfnod hwnnw o ffilmio, ac maen nhw wedi colli mwy fyth yn y misoedd diwethaf.

Yn y rhaglen FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn a ddarlledwyd yr wythnos hon ar S4C, roedd yr arweinwyr – Leah Owen-Griffiths, Lois Morgan-Pritchard, Dylan Humphreys, Siôn Huw Davies a Dr Bronwen Price – yn ymuno â’i gilydd unwaith eto i adrodd am eu taith yn dilyn y gyfres.

Daeth hi i’r amlwg eu bod nhw fel grŵp wedi colli dros chwe stôn arall rhyngthyn nhw, gan guro’r targed – sef cyfanswm o 15 stôn – a gafodd ei osod iddyn nhw, a hynny o un pwys.

‘Fi ’di gweithio’n galed iawn’

Un sydd wedi parhau gyda’i hymdrechion i golli pwysau a chynyddu ffitrwydd ers gorffen ffilmio’r gyfres wreiddiol, yw  Leah Owen-Griffiths sy’n athrawes o Gaerdydd.

Ers i’r gyfres orffen mae Leah, sydd yn fam i ddau o blant, wedi mwynhau rhedeg rasys 10 cilomedr a chymryd rhan yn yr her eithafol Tough Mudder.

Yn sgil ei hymdrechion, mae Leah wedi llwyddo i golli tair stôn ac wyth pwys, gan golli 14 modfedd oddi ar ei wast hefyd.

“Fi ‘di gweithio’n galed iawn yn trio cynyddu fy ffitrwydd i,” meddai.

“Fi’n teimlo’n mor dda ar hyn o bryd, fi erioed ‘di teimlo cystal â hyn.

“Ar ddechrau’r flwyddyn, ro’n i’n teimlo fel balŵn oedd ar fin byrstio. Oni’n gwisgo dillad oedd yn lot rhy fawr i fi a doedd gen i ddim lot o feddwl o fi fy hun.

“Ond erbyn hyn, fi yw’r fersiwn gorau posib o fi fy hun. Mae’n mor braf i allu dweud hynny, a bron a bod, dwi ddim yn nabod y person sy’n edrych nôl ata’i yn y drych weithiau.”

Colli pwysau a chodi arian

Er i’r pum arweinydd golli cyfanswm o bymtheg stôn rhyngthyn nhw, mae rhai wedi gweld llwyddiannau y tu hwnt i’r glorian.

Mae Dylan Humphreys o Rosgadfan, sydd yn rhedeg cwmni peiriannau cloddio, wedi colli cyfanswm o bedwar stôn a phum pwys, a bellach, dydy o ddim angen llawdriniaeth ar ei hernia.

Fe wnaeth y daith hefyd ysgogi Dylan i ddechrau beicio, ac mae wedi seiclo cannoedd o filltiroedd ers y gyfres, gan godi dros £1,000 i orsaf fad achub RNLI Porthdinllaen wrth wneud hynny.

Gallwch wylio rhaglen FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn ar S4C Clic a BBC iPlayer.