Mae ffilm ddogfen gan gyfarwyddwr o Bowys wedi cael ei dewis fel enwebiad Prydain mewn dau gategori yn yr Oscars.

Roedd hi’n “wych” cael cydnabyddiaeth i’r ffilm, sy’n archwilio’r lefelau uchel o drais domestig a lladd menywod (femicide) yn Nhwrci, meddai’r cyfarwyddwr Chloë Fairweather wrth golwg360.

Mae Dying to Divorce wedi cael ei henwebu yn y categorïau Ffilm Ryngwladol Orau a Ffilm Ddogfen Orau 2022.

Mae un ymhob tair menyw yn Nhwrci wedi dioddef trais domestig, ac mae niferoedd y femicides – sef lladd menywod oherwydd eu bod nhw’n fenywod – yn y wlad yn cynyddu.

Cafodd Dying to Divorce ei ffilmio dros gyfnod o bum mlynedd, ac mae’n darlunio’r argyfwng o drais sy’n seiliedig ar ryw yn Nhwrci, yn ogystal â’r digwyddiadau gwleidyddol diweddar sydd wedi effeithio ar ryddid democrataidd yn y wlad.

“Cydnabyddiaeth”

Daw Chloë Fairweather yn wreiddiol o bentref Aber-miwl, ddim ymhell o’r Drenewydd, ond mae hi bellach yn byw yn Llundain, ac wrth ei bodd gyda’r ddau enwebiad am Oscar.

“Mae’n hyfryd, ac yn syrpreis, roedden ni’n dîm bach iawn a wnaeth y ffilm dros bum mlynedd jyst o brosiect roedden ni’n angerddol drosto felly mae’n wych cael ein cydnabod yn y ffordd hon,” meddai.

“Ac i’r mater o drais domestig a lladd menywod gael y gydnabyddiaeth hefyd, mae’n wych hefyd.”

Mae’r ffilm yn dilyn Ipek Bozkurt, cyfreithiwr sy’n ceisio cael cyfiawnder i ddwy fenyw sydd wedi dioddef trais domestig – Arzu, gwraig i ffarmwr a gafodd ei saethu saith gwaith gan ei gŵr pan ofynnodd am ysgariad, a Kubra a gafodd waedlif i’r ymennydd ar ôl i’w gŵr ymosod arni ddyddiau ar ôl iddi roi genedigaeth.

Roedd Chloë Fairweather yn gweithio gyda newyddiadurwr ar ffilm arall yn Nhwrci pan ddatblygodd y syniad.

“Roedd gennym ni ddiwrnod ar ôl cyn fy mod i’n dychwelyd, ac roedden ni’n trafod ‘A ddylen ni drio gwneud rhywbeth arall?’” meddai.

“Ac roedd hi’n gwybod am waith yr ymgyrchwyr, felly fe wnaethon ni drefnu i ddilyn ymgyrchydd oedd yn cyfarfod Arzu, dynes oedd wedi cael ei saethu o bellter agos yn ei breichiau a’i choesau pan wnaeth hi drio gadael ei gŵr.

Arzu Boztas

“A dyna oedd fy nghyfarfyddiad cyntaf i gyda’r ffilm.

“Ac fe wnaethon ni ffilmio’r cyfarfod, a hwnna yw un o’r golygfeydd mwyaf pwerus yn y ffilm felly roedd yn foment eithaf mawr ei chyfarfod hi, a gweld dwyster yr hyn oedd wedi digwydd iddi a’r brys sydd i ddweud y stori.

“A theimlo hefyd bod ganddi lais sydd wirioneddol angen cael ei glywed, nid yn unig oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd iddi hi ond mae hi’n berson cryf a gwydn oedd yn symud ymlaen gyda’i bywyd mewn ffordd gadarnhaol iawn.”

“Problem fyd-eang”

Yn ôl Chloë Fairweather, siarad gyda’r cyfreithiwr, Ipek Bozkurt, wnaeth iddi ei hystyried fel ffilm lawn, a sylwi sut mae trais domestig a lladd menywod yn bwnc sy’n estyn allan at fod yn broblem fyd-eang hefyd.

Ipek Bozkurt

“Roedden ni’n meddwl y bydden ni’n gwneud ffilm fer arall, darn newyddion, ac fe wnaethon ni hynny, fe wnaethon ni ddarn gyda’n gilydd i’r New York Times.”

Ar ôl siarad gyda’r cynhyrchydd, Sinead Kirwan, dechreuodd y syniad droi i fod yn ffilm ddogfen lawn.

“Dechreuon ni siarad am ein barn ni, ac fe wnes i grybwyll fy mod gen i gysylltiad gyda chyfreithiwr sy’n berson hoffus iawn.”

Mae’r ffilm wedi cael ei rhyddhau mewn sinemâu yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cyd-fynd â 16 Diwrndo o Weithredu’r Cenhedloedd Unedig i fynd i’r afael â thrais ar sail rhyw