Bydd rownd derfynol y gyfres deledu I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here yn cael ei chynnal heno (nos Sul, Rhagfyr 12), wrth i Frankie Bridge, Simon Gregson a Danny Miller frwydro i ddod yn frenin neu frenhines castell Gwrych 2021.

Bydd y gantores a’r actorion yn herio’i gilydd ar ôl i’r cyn-bêldroediwr Ffrengig David Ginola golli allan ar le ymhlith y tri olaf yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Treialon seiclôn oedd yr her olaf neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 12), wrth i’r cystadleuwyr orfod ceisio dringo llethrau gwlyb llawn peli plastig i gasglu sêr.

Dechreuodd y gyfres ar Dachwedd 21, ond fe fu’r cystadleuwyr yn wynebu sawl her ychwanegol eleni, gan gynnwys dau aelod o’r cyhoedd oedd wedi cael mynediad i’r castell, a gorfod gadael o ganlyniad i Storm Arwen ac aros oddi ar yr awyr am dridiau.

Bu’n rhaid i Richard Madeley, y cyflwynydd teledu, adael y gyfres ar ôl cael ei daro’n wael a doedd dim modd iddo ddychwelyd i’r swigen Covid wedyn.

Mae’r gyfres yn cael ei chynnal yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol gan nad oedd modd teithio i Awstralia oherwydd y cyfyngiadau Covid llym yno.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ar ITV heno (nos Sul, Rhagfyr 12) am 9 o’r gloch.