Roedd y gantores o Sir Benfro, Lowri Evans, yn Nhŷ Tawe nos Wener (Rhagfyr 10), i gofio’r diweddar Gareth Rees, aelod brwd a gweithgar o gymuned Gymraeg Abertawe a fu farw ychydig yn llai na blwyddyn yn ôl pan nad oedd modd cynnal digwyddiadau.

Un o Fargoed oedd Gareth yn wreiddiol, ond roedd yn byw yng Nghlydach ar ôl symud i Abertawe i astudio Cemeg ym mhrifysgol y ddinas.

Ymunodd â Chlwb Rygbi’r Fardre a thrwy’r cysylltiad hwn ac yn ystod taith i Lanbed yng Ngheredigion gyda’r tîm a chlywed yr iaith ar wefusau’r dorf a’r chwaraewyr ar y cae y gwnaeth e’r penderfyniad i ailafael yn y Gymraeg a glywai gan ei fam-gu yng Nghastellnewydd Emlyn flynyddoedd ynghynt.

Dywedai’n aml fod y daith honno’n “epiffani” iddo, ac roedd yn sicr yn drobwynt yn ei fywyd y gwnaeth cymuned Gymraeg Abertawe elwa’n fawr ohono’n ddiweddarach.

Gwyddoniaeth a ieithoedd

Er iddo ennill doethuriaeth a graddau gwyddonol a dilyn gyrfa yn y maes cynhyrchu, penderfynodd maes o law mai ieithydd oedd e, mewn gwirionedd, gan fynd yn gyfieithydd Ffrangeg ar ôl graddio yn yr iaith a dilyn gradd uwch mewn technoleg cyfieithu.

Aeth yn gyfieithydd am ddau ddegawd, cyn ymddeol a symud i Barcelona ddwy flynedd yn ôl, ac yno mae ei fab Geraint a’i ferch-yng-nghyfraith Dina, ynghyd â Matilda, ei wyres.

Roedd Gareth a Jane yn bartneriaid am bron i hanner can mlynedd.

Yn Barcelona, aeth Gareth ati i ddysgu Sbaeneg a Chatalaneg cyn cael ei daro’n wael ar ôl cael strôc ar ddechrau 2019.

Y Gymraeg a Chymreictod

Roedd Gareth yn hyddysg yn niwylliant gwerin, barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ac yn hoff iawn o gerddoriaeth draddodiadol, ac yntau’n aml i’w weld y tu ôl i’r bar yn nosweithiau gwerin Tŷ Tawe a sesiynau acwstig Tyrfe Tawe.

Er mai gwrando yn unig fyddai yn ystod y nosweithiau hynny, ar wahân i’r adegau pan fyddai’n diddanu drwy ganu ambell i gân, canai sawl offeryn gartref.

Byddai’n mwynhau dilyn y gerddoriaeth o amgylch Cymru, gan deithio i dafarnau ym mhob cwr o’r wlad, o Benfro i Swydd Henffordd.

Ar ôl symud i ochr Treforys o’r dref, byddai’n aml i’w weld yn nhafarn y Llew Coch, lle byddai cornel fach o Gymreictod bob nos Sadwrn ac fe roddodd wersi Cymraeg yn wirfoddol yng nghlwb y Wyrcis am flynyddoedd lawer.

Roedd lle Cymru a’r Gymraeg yn Ewrop yn un o’i brif ddiddordebau, ac roedd yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg, ac yntau’n llywodraethwr ysgol, yn brotestiwr a dathlwr cyson dros yr iaith a Chymru annibynnol.

Yn Nhŷ Tawe, trefnodd Gareth sawl gŵyl gwrw, lle byddai cerddorion fel Meic Stevens a Lowri Evans yn perfformio’n aml.

Roedd e hefyd yn gerddwr brwd gyda Chlwb Cerdded Pontarddulais, gyda’r teithiau’n aml yn gorffen yn nhafarn y Railway yng Nghilâ, lle’r oedd afalau ei berllan, Dol Erwain, yn gynhwysyn i’r seidr yn y dafarn honno lle mae ei gyfaill coleg, Rory Gowland, yn brif fragwr y Swansea Brewing Company.

Rhoddodd y bragdy dair casgen o gwrw at y noson er cof am Gareth, yn ogystal â phedair potel o seidr o berllan fechan Cwm Cou oedd yn eiddo i Gareth, gyda’r holl elw’n mynd at elusen strôc.

Cerdd deyrnged

Wrth annerch y gynulleidfa ar y noson deyrnged i Gareth, dywedodd Huw Dylan Owen fod “rhaid cofio cerdd Dic Jones”:

Mae cyrfe gwell na’i gilydd –

ond nid oes cwrw gwael,

ymhle y mae fy ffrindiau,

mae’r cwrw gorau’i gael.

  • Teyrnged yn seiliedig ar erthygl gan Huw Dylan Owen a gafodd ei chyhoeddi yn y papur bro Wilia fis Chwefror eleni