Yr actor Danny Miller, sy’n chwarae’r cymeriad Aaron Dingle yn yr opera sebon Emmerdale, enillodd y gyfres deledu I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here yng nghastell Gwrych neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 12).

Simon Gregson, yr actor sy’n chwarae’r cymeriad Steve McDonald yn Coronation Street, oedd yn ail a’r gantores Frankie Bridge oedd yn drydydd.

“Wir i chi, o waelod fy nghalon a chalon fy nheulu, diolch yn fawr iawn, dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i fi erioed, ac eithrio fy mab,” meddai’r enillydd.

“Felly ie, alla i ddim credu’r peth, dw i mewn sioc.

“Do’n i byth yn meddwl y byddwn i yn y sefyllfa yma, prin fy mod i’n meddwl y byddwn i’n mynd drwodd heibio i ddwy neu dair pleidlais.”

Cyn i enw’r enillydd gael ei gyhoeddi, dywedodd Danny Miller ei fod e wedi penderfynu mynd i’r castell dair wythnos ar ôl i’w fab Albert gael ei eni, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol ei deulu.

Treialon

Bu’n rhaid i’r tri yn y rownd derfynol wynebu heriau unigol er mwyn ennill un swper olaf gyda’i gilydd.

Y nod i Danny Miller oedd ennill cwrs cyntaf, Simon Gregson y prif gwrs a Frankie Bridge y pwdin.

Roedd yn rhaid i Miller wisgo helmed oedd yn cael ei llenwi â thrychfilod bob dwy funud, gan ennill un seren bob tro y câi’r helmed ei llenwi.

Llwyddodd i bara’r deg munud yn gyfan.

Tasg fwyta oedd gan Simon Gregson, a bu’n rhaid iddo flasu llygad mochyn a thafod gafr cyn yfed diod oedd yn gymysgedd o wyau a ffrwythau a llawer mwy. Enillodd e’r pum seren oedd ar gael.

Er mwyn ennill pwdin, aeth Frankie Bridge i mewn i’r Tomb of Doom, a chael ei chloi i mewn am ddeng munud gyda mwy na 50 o nadroedd ar ei chorff, a’r ddwy funud olaf yn y tywyllwch, ond llwyddodd i gwblhau’r her gan ennill gweddill y sêr.

Cafodd dechrau’r rhaglen ei gohirio eto, a hynny am ddeng munud o ganlyniad i araith Boris Johnson am Covid-19.

Pwy fydd brenin neu frenhines y castell?

Frankie Bridge, Simon Gregson a Danny Miller sy’n brwydro i ennill coron I’m A Celebrity… yng nghastell Gwrych heno (nos Sul, Rhagfyr 12)