Mae cwmni teledu sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gydag un o gewri’r diwydiant.
Bydd Sony Pictures Television yn caffael cyfran gwerth 30% o Bad Wolf, sy’n creu cynnwys ers 2015.
Mae’n debyg y bydd hyd at £60m yn cael ei fuddsoddi yn y cwmni, wrth iddyn nhw geisio tyfu i lwyfan rhyngwladol.
Hefyd, mae’r cytundeb yn cynnwys eu stiwdio yn y brifddinas, Wolf Studios Wales, a’u chwaer-gwmni ar draws yr Iwerydd, Bad Wolf America.
Ers cael ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, mae’r cwmni wedi bod yn gyfrifol am rai o raglenni’r BBC, Sky ac HBO, fel The Night Of, His Dark Materials ac I Hate Suzie.
Am y cynyrchiadau hynny, maen nhw wedi cael dros 100 o enwebiadau ac wedi ennill 34 o wobrau, gan gynnwys yr Emmys, y Golden Globes a’r BAFTAs.
Roedd Julie Gardner a Jane Tranter, sylfaenwyr y cwmni, hefyd yn flaenllaw wrth ail-lansio Doctor Who yn 2005, pan oedden nhw’n gweithio gyda’r BBC, a bydd y gyfres honno’n cael ei chynhyrchu gan Bad Wolf o 2023.
‘Cyrraedd uchelfannau llawer uwch’
Yn ôl Jane Tranter, bydd y bartneriaeth newydd yn galluogi’r cwmni i dyfu hyd yn oed yn fwy.
“Mae’r bum mlynedd diwethaf ers lansio Bad Wolf wedi bod yn brofiad gwerth chweil,” meddai.
“Gyda chefnogaeth Access Entertainment, Sky a HBO, rydyn ni wedi adeiladu seilwaith cynhyrchu a chymuned greadigol wedi’i leoli yn Wolf Studios Wales sy’n gallu cystadlu ag unrhyw gwmni teledu yn y byd.
“Mae Sony Pictures Television yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y cwmni, ac mae eu dealltwriaeth chwim a’u cred yn ethos Bad Wolf yn eu gwneud nhw’n bartneriaid perffaith ar gyfer ein dyfodol.
“Gyda chorfforaeth fyd-eang a blaengar fel Sony yn buddsoddi yn nyfodol Bad Wolf a Chymru, mae’n rhoi’r gallu inni gyrraedd uchelfannau llawer uwch yn y blynyddoedd i ddod.”
Rhoi Cymru ar y map
Dros y bum mlynedd diwethaf, mae Bad Wolf wedi dod â rhai o gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac actorion mwyaf y byd i Gymru i saethu gwahanol raglenni, ac maen nhw wedi creu o gwmpas 2,500 o swyddi yn y cyfnod hwnnw hefyd.
Yn 2019, fe gafodd y cwmni eu cydnabod fel y busnes sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau’r Fast Growth 50.
Mae Wayne Garvie, Llywydd Cynhyrchiadau Rhyngwladol Sony Pictures Television, yn gyffrous i gael gweithio gyda’r cwmni am hynny.
“Mewn amrantiad, mae Bad Wolf wedi sefydlu eu hunain fel un o gynhyrchwyr drama mwyaf clodwiw’r byd,” meddai.
“Mae safon eu gwaith, lled eu dychymyg a’u huchelgais diderfyn wedi gwneud nhw’n un o’r cwmnïau cynhyrchu gorau i ddod i’r amlwg yn yr oes hon.
“Mae Jane a’i thîm wedi adeiladu busnes aruthrol ac wedi sefydlu Cymru fel cartref rhai o straeon gorau ein hoes, a nawr rydyn ni’n bwriadu eu helpu nhw i adeiladu ymhellach.
“Mae hi’n fraint eu bod nhw wedi ein dewis ni fel eu partner ar gyfer cam nesaf eu hantur wefreiddiol.”