Mae’r chwilota wedi dechrau am ddau berson ifanc i chwarae’r prif rannau yn y gyfres deledu boblogaidd Deian a Loli.

Dros y blynyddoedd, mae’r gyfres, sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni teledu Cwmni Da, wedi ennill llwyth o wobrau, gan gynnwys tair gwobr BAFTA Cymru.

Erbyn hyn, mae’r actorion presennol, sydd wedi chwarae’r prif rannau ers 2020, wedi tyfu’n rhy fawr i chwarae’r efeilliaid ifanc.

Bydd y cynhyrchwyr felly yn chwilio am ddau blentyn i gymryd drosodd fel y prif gymeriadau ar gyfer y bedwaredd gyfres, a fydd yn cael ei ffilmio ym mis Mai 2022.

‘Chwilio am blant brwd ac eiddgar’

Yn ôl y cyfarwyddwr a’r cyd-gynhyrchydd Martin Thomas, nid oes angen i unrhyw ymgeiswyr posib feddu ar brofiad actio blaenorol.

“Rydym yn gwahodd unrhyw actorion ifanc rhwng naw a 12 oed i anfon fideo atom yn adrodd stori ddiddorol amdanynt eu hunain,” meddai.

“Gall y fideo fod am unrhyw beth maen nhw wedi’i wneud, ei weld neu hyd yn oed ei ddychmygu.

“Y tro diwethaf i ni gynnal yr ymarfer hwn mi wnaethon ni dderbyn dros 550 o fideos a’r tro blaenorol mi gawson ni tua 300 felly bydd y broses ddewis a dethol yn cymryd ychydig o amser.

“Rydym yn chwilio am blant brwd ac eiddgar.”

‘Mwynhau yn fawr’

Ifan Henri, sy’n 10 oed o Abersoch, a Lleucu Owen, sy’n 11 oed o Gerrigydrudion, sydd wedi chwarae’r prif rannau ers y llynedd.

Dywed y ddau ohonyn nhw fod chwarae Deian a Loli wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.

“Mi wnes fwynhau yn fawr,” meddai Ifan.

“Mi gefais i lawer o hwyl efo’r criw a Lleucu ac roeddem i gyd yn dod ymlaen yn dda efo’n gilydd.

“Roedd yna lawer o jôcs ac mi fyddai Lleucu a fi yn aml yn methu stopio chwerthin ac yn gorfod ail-ffilmio’r olygfa.

“Un tro rwy’n credu i ni orfod ail-wneud yr olygfa saith gwaith.”

Ychwanegodd Lleucu: “Rydw i wedi gwylio Deian a Loli ers y cychwyn ac roeddwn i’n falch o gael y rhan.

“Roeddwn i ychydig yn nerfus ond unwaith i ni ddechrau, roeddwn i’n teimlo’n hyderus.

“Roedd ffilmio yn wych a dysgais gymaint am actio. Hoffwn wneud rhywbeth fel hyn eto ac o bosibl fynd i fyd actio,” meddai.

‘Tanio dychymyg’

Ychwanegodd Martin Thomas y bydd y ffilmio yn digwydd yn ardal Caernarfon fis Mai nesaf, gan saethu 10 pennod i gychwyn ac yna 10 pennod arall yn y flwyddyn ganlynol.

“Mae Ifan a Lleucu wedi bod yn wych a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad anhygoel i lwyddiant Deian a Loli,” meddai.

“Mae’r sioe yn tanio dychymyg y plant ac yn dangos y gallan nhw gael antur. Efallai bod ochr dywyllach i rai o’r straeon ond mae’r cyfan yn gweithio allan yn y diwedd.

“Mae’r rhaglen wedi cael derbyniad da, ond i mi y gwir foddhad fu gweld wynebau ein cynulleidfaoedd pan rydyn ni’n llwyfannu dangosiadau arbennig o’r rhaglen.

“Mae eistedd mewn sinema ac edrych ar y plant wedi eu cyfareddu ac yn syllu ar y sgrin wrth i’r stori ddatblygu yn amhrisiadwy.

“Roedd pandemig Covid yn golygu nad oeddem yn gallu llwyfannu cymaint o’r rhain ag y byddem wedi hoffi efo Ifan a Lleucu ond rwy’n siŵr y byddwn yn gallu llwyfannu’r rhain eto.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 3, 2022, ac mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Cwmni Da www.cwmnida.cymru

Deian a Loli – 550 o blant wedi ceisio am rannau’r efeilliaid yn y gyfres newydd

Lleu Bleddyn

Safon y rhai fu’n ceisio am gyfle i actio “yn anhygoel o uchel” – bachgen o Borthaethwy a merch o Gerrigydrudion wedi eu dewis