Mae S4C wedi llongyfarch pedair enillydd yng ngwobrau BAFTA Cymru neithiwr (nos Sul, Hydref 24).

Enillodd y sianel bedair gwobr wrth i’r gwobrau gael eu cyhoeddi mewn seremoni ar-lein gydag Alex Jones yn cyflwyno.

Roedd dathlu mawr yng Nghaernarfon wrth i’r gyfres ddogfen bry ar y wal Dolig Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) gipio’r Rhaglen Adloniant Orau.

Llwyddodd cyfres boblogaidd Deian a Loli (Cwmni Da) i ennill gwobr y Rhaglen Blant Orau.

Enillodd rhaglen Pawb a’i Farn (Tinopolis) y wobr yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes am rifyn arbennig ar Black Lives Matter.

Yn ogystal, llwyddodd Michael Kendrick Williams i ennill y wobr Torri Trwodd am ei waith ar gynhyrchiad Britannia: Tân ar y Bont (Rondo Media).

‘Ymroddiad a chreadigrwydd y sector’

“Ry’n ni wrth ein bodd o ennill pedair gwobr BAFTA Cymru heno,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

“Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector.

“Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o’r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr.

“Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr i gyd.”

BAFTA Cymru

Pedair gwobr BAFTA Cymru i Gangs of London

It’s A Sin, The Pembrokeshire Murders a Rhod Gilbert’s Work Experience yn ennill dwy wobr yr un