Rhwng symud pencadlys y sianel i Gaerfyrddin a phandemig Covid-19, mae cyfnod Owen Evans yn Brif Weithredwr S4C wedi bod yn heriol.

Ac wrth iddo roi’r gorau i’w swydd, mae wedi datgelu wrth gylchgrawn Golwg ei fod wedi ceisio magu perthynas dda gyda Llywodraeth Prydain, er mwyn cael y setliad ariannol gorau posib i’r Sianel Gymraeg.

Ddegawd yn ôl bu toriadau mawr i gyllideb S4C, a byth ers hynny bu cwynion bod y sianel yn wynebu dyfodol ariannol ansicr.