Bron i flwyddyn ar ôl ymdrech frechu ble cafodd 1,200 o bobol leol bigiad rhag Covid dros un penwythnos ym mhentref Nefyn, ar Benrhyn Llŷn, roedd meddyg teulu’r pentref gyda’i fyddin o wirfoddolwyr a gweithwyr iechyd wrthi yn brechu eto’r penwythnos diwethaf.

Ond y tro yma roedd gwahoddiad i bawb dros 18 oed, a daeth bron i 4,000 o bobol o bob rhan o Wynedd ac Ynys Môn i Nefyn i gael eu brechu – rhai ohonynt am y tro cyntaf, sy’n plesio Dr Eilir Hughes yn fawr iawn.