Mae Adam Price a Mark Drakeford wedi arwyddo’r cytundeb cydweithio gan nodi dechrau partneriaeth dair blynedd.

Mae’r Cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant.

Hefyd mae creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a gweithredu ar “unwaith ac yn radical” i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi yn rhan o’r fargen.

Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu polisïau ar sail y Cytundeb Cydweithio ac i gadw trosolwg ar y cyd o’r gwaith.

“Mae’n gytundeb pwrpasol i gyflawni dros Gymru ond mae hefyd yn adlewyrchu sut mae gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio – drwy ganfod tir cyffredin a rhannu syniadau da,” meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ar y rhaglen uchelgeisiol hon.”

Crynhodd Adam Price’r digwyddiad gydag arwyddair pêl-droed Cymru: “Gorau chwarae cyd chwarae.”

“Mae heddiw’n nodi dechrau ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth,” meddai.

“Rwy’n falch o lofnodi’r cytundeb hwn gyda’r Prif Weinidog ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.”

Tros y penwythnos fe roddodd aelodau Plaid Cymru eu sêl bendith i’r cytundeb yn ystod eu cynhadledd rithiol gan gefnogi’r cytundeb bron yn unfrydol gyda 94% yn pleidleisio o blaid.

 

Fe ddywedodd Adam Price ar ei gyfrif Twitter: “Mae heddiw yn nodi dechrau ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth.

“Rwy’n falch o arwyddo’r cytundeb hwn gyda’r @PrifWeinidog ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru. Gorau Chwarae Cyd Chwarae.”

Gwnaeth Adam Price ddiolch mewn datganiad i aelodau Plaid Cymru am gefnogi’r hyn a alwodd yn “gam enfawr ymlaen”.

“Ni allaf aros i’r gwaith ddechrau ar gyfer pobl Cymru,” meddai.

Clymblaid ac nid cytundeb fydd y bartneriaeth ac felly ni fydd Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion ond bydd y blaid yn cael apwyntio ymgynghorwyr i fod am amgylch y bwrdd drafod.

Bydd y pleidiau â rhyddid i anghytuno â’r Llywodraeth mewn meysydd nad yw’n cael eu cynnwys yn y cytundeb gan weithredu fel “Cyd-wrthblaid”.

Yn ystod dadleuon ar lawr y siambr heddiw mae disgwyl i Paul Davies, arwienydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig ofyn ‘Cwestiwn Amserol’ am fecanweithiau’r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Aelodau Plaid Cymru’n cymeradwyo’r cytundeb cydweithio â Llafur

Mwyafrif llethol – 94% – yn pleidleisio o blaid y cytundeb tair blynedd gyda Llywodraeth Cymru
Adam Price yn annerch wedi'r etholiad

Y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn “flaendal ar annibyniaeth”

Disgwyl i Adam Price ddweud bod y cytundeb yn ffordd o “gydweithio ble fo’n bosib, ond yn parhau i herio” yng nghynhadledd y Blaid