Cafodd 688 o farwolaethau ymysg pobol ddigartref yng Nghymru a Lloegr eu cofnodi llynedd, yn ôl amcangyfrifon newydd.
Roedd hyn yn cynnwys 13 marwolaeth yn ymwneud â Covid-19, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Digwyddodd 22 o’r holl farwolaethau yng Nghymru.
Dyma’r tro cyntaf i nifer y marwolaethau blynyddol gafodd eu cofnodi ostwng ers 2014, ond dydi’r gostyngiad o 11.6% ers 2019 ddim yn “ystadegol arwyddocaol”, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer nifer y marwolaethau 42.7% yn uwch nag yn 2013, pan ddechreuwyd casglu’r data, a gallai’r ystadegau ar gyfer 2020 fod yn danamcangyfrifon hefyd, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ystadegau
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y rhaglen Everyone In, pan gafodd miloedd o bobol ddigartref lety ar ddechrau’r pandemig, wedi ei gwneud hi’n anoddach adnabod pobol ddigartref yn eu cofnodion.
Mae’r ystadegau yn cynnwys marwolaethau pobol oedd yn cysgu ar y strydoedd neu’n byw mewn llety brys neu dros dro pan, neu yn ystod yr adeg, y buon nhw farw.
Mae’r ystadegau yn cynnwys marwolaethau gafodd eu hadnabod, yn ogystal ag amcangyfrif o’r nifer mwyaf tebygol o farwolaethau ychwanegol na chafodd eu hadnabod fel rhai’n ymwneud â phobol ddigartref.
Yn sgil oedi mewn cofnodi marwolaethau, digwyddodd tua hanner y marwolaethau a gafodd eu cofnodi yn 2020 cyn y flwyddyn honno, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hi’n rhy gynnar iddyn nhw wneud sylwadau ar effaith y pandemig, cyfnodau clo, a’r rhaglen Everyone In ar nifer y marwolaethau yn sgil yr oedi.
Roedd 38.5% o’r marwolaethau yn ymwneud â gwenwyn yn sgil cyffuriau, tra bod canran y marwolaethau drwy hunanladdiad wedi gostwng traean o gymharu â 2019.
Roedd 12.1% o’r marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol.
Dynion oedd 90% o’r rhai fuodd farw, ac roedd 19 ohonyn nhw o dan 25 oed.
“Annerbyniol”
Dywedodd prif weithredwr elusen Homeless Link, Rick Henderson, ei bod hi’n “amlwg yn annerbyniol” bod 688 o bobol ddigartref wedi marw mewn blwyddyn, a bod rhaid cynnal ymchwiliad er mwyn atal pobol rhag marw’n gynamserol yn y dyfodol.
“Yn un o gymdeithasau cyfoethocaf y byd, ni ddylai hyn fod yn realiti, yn syml,” meddai Rick Henderson.
“Ond mae’r ffaith bod nifer y marwolaethau wedi gostwng am y tro cyntaf mewn pum mlynedd a bod yna gyn lleied o farwolaethau o Covid, er gwaetha’r ffaith bod nifer o’r rhai sy’n profi digartrefedd yn fwy agored i niwed, yn bwysig.
“O fis Ebrill 2020 ymlaen, fe wnaeth Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] roi llety i unrhyw berson oedd yn cysgu ar y strydoedd fel rhan o raglen Everyone In.
“Mae hyn yn dangos effaith darparu llety sefydlog, wrth drin digartrefedd fel mater iechyd. Mae’n rhaid i ni barhau â’r agwedd hon wrth fynd yn ein blaenau.”