Mae Cynghreiriau JD Cymru wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i’r ymgyrch #NoHomeKit sy’n cael ei chynnal ledled Cymru a Lloegr.

Mae Shelter Cymru yn gofyn i glybiau a chefnogwyr yng Nghymru helpu i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng tai drwy beidio gwisgo crysau cartref i gemau.

Bydd clybiau JD Cymru Premier yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch yn eu gemau Gŵyl San Steffan, tra bydd clybiau JD Cymru North a JD Cymru South hefyd yn cefnogi’r fenter yn ystod yr ŵyl.

Daw hyn yn dilyn cefnogaeth i’r ymgyrch gan nifer o glybiau Cynghrair Pêl-droed Lloegr yn ogystal â’r Gynghrair Genedlaethol a chynghreiriau is.

“Gwneud gwahaniaeth”

Dywedodd Kerys Sheppard, Pennaeth Codi Arian shelter Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Cynghreiriau JD Cymru yn cefnogi’r ymgyrch #NoHomeKit yn swyddogol.

“Gobeithiwn y bydd eu cefnogaeth yn annog hyd yn oed mwy o bobl i ddod i’n helpu i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd y Nadolig hwn.

“Mae hwn syniad syml y gall unrhyw un gymryd rhan ynddo a gwneud gwahaniaeth.

“Bydd dros 1500 o blant yng Nghymru heb gartref y Nadolig hwn ac, yn anffodus, mae llawer mwy o unigolion a theuluoedd mewn perygl o golli eu cartrefi gyda gaeaf caled o’u blaenau.

“Rydym yn gobeithio y bydd cymaint o glybiau, chwaraewyr a chefnogwyr â phosibl yn parhau i ymuno â #NoHomeKit fel y gallwn harneisio pŵer unigryw pêl-droed a gwneud rhywbeth arbennig i helpu’r rhai sy’n wynebu ac yn profi digartrefedd yng Nghymru.”