Mae adroddiad blynyddol Estyn – sy’n arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru – yn rhybuddio bod Mathemateg, darllen, y Gymraeg a sgiliau cymdeithasol wedi dioddef yn ystod y cyfnod clo.
Mae’r adroddiad yn adolygu sut y mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill wedi addasu i broblemau a achoswyd gan y pandemig.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 1 Rhagfyr).
Mae hefyd yn nodi nad yw effaith hirdymor lawn y pandemig ar addysg yn glir o hyd ac ni ddylid tanbrisio’r effaith ar staff ychwaith.
Mae’r ddogfen yn ychwanegu bod sgiliau Cymraeg yn “bryder”.
Ar ben hynny, mae’n rhybuddio am “heriau” ar gyfer asesu mewn ysgolion uwchradd, colegau AB a dysgu seiliedig ar waith.
Cyfaddefodd y Prif Arolygydd, Claire Morgan, fod effaith lawn tarfu ar addysg a’r effaith hirdymor ar ddysgwyr yn anodd ei hadnabod.
‘Lles yn flaenoriaeth’
Dywed yr adroddiad fod yn rhaid i les fod yn flaenoriaeth.
Edrychodd yr arolygiaeth ar sut yr oeddent yn cefnogi lles ac addysg dysgwyr drwy gau ystafelloedd dosbarth a dysgu o bell.
Mae’n ailadrodd rhybuddion gan eraill, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, mai plant a phobl ifanc yn eu harddegau o gefndiroedd difreintiedig a ddioddefodd fwyaf.
Mae yno hefyd bryderon am effaith y pandemig ar athrawon.
Disgyblion wedi colli hyder yn eu gallu i siarad Cymraeg
Ychwanegodd yr adroddiad bod ysgolion cyfrwng Cymraeg “yn wynebu heriau penodol yn ystod y flwyddyn academaidd”.
“Nododd bron pob ysgol Cyfrwng Cymraeg ostyngiad yn ystod geirfa Gymraeg disgyblion a’u defnydd o Gymraeg llafar gan mai prin oedd y cyfleoedd i glywed ac ymarfer yr iaith,” meddai Claire Morgan.
“Roedd hyn yn arbennig o wir am ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref.
“Collodd llawer o ddisgyblion hyder yn eu gallu i siarad Cymraeg ac felly roeddent yn amharod i siarad Cymraeg pan ddychwelon nhw i’r ysgol.”
Daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg yn ystod y pandemig.
“Roedd y grŵp blaenorol yn llai tebygol o gael mynediad i WiFi, dyfeisiau digidol a chefnogaeth gyda’u gwaith ysgol gartref,” meddai Claire Morgan.
“Roedd eu teuluoedd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n ariannol gan y pandemig ac roedd angen i deuluoedd mwy hunanynysu’n amlach.”
Canmol ymateb athrawon
Wrth lansio’r adroddiad, canmolodd y Prif Arolygydd ymateb athrawon ac arweinwyr ar draws pob sector gan ddweud bod dysgu digidol wedi gwella.
Roedd rhai wedi darparu bwyd, dyfeisiau a gwaith i ddisgyblion ac wedi helpu i gefnogi teuluoedd.
“Mae pob addysgwr – wedi bod yn hyblyg ac yn greadigol, yn addasu’n barhaus mewn ffyrdd arloesol,” meddai Claire Morgan.
“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn arall ac mae pawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant wedi ymateb unwaith eto i’r heriau.
“Ni ellir pwysleisio effaith lles dysgwyr, staff ac arweinwyr ar addysg ddigon.
“Mae parhau i flaenoriaethu eu lles yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu parhau i ddysgu.”