Mae Heddlu Dyfed Powys yn ail-agor yr ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin plant ar Ynys Bŷr.

Daw hyn yn dilyn cyfweliad ar Newyddion S4C neithiwr (nos Fawrth, 30 Tachwedd), lle honnodd Kevin O’Connell ei fod wedi cael ei dreisio gan fynachod ar yr ynys pan oedd yn blentyn.

Dywedodd ei fod wedi cael ei gludo i Sussex a Surrey gan y sawl wnaeth ei dreisio lle cafodd ei gam-drin ymhellach.

Bydd Kevin O’Connell ar newyddion BBC Wales heno (nos Fercher, 1 Rhagfyr) yn trafod ei brofiadau.

Cafodd deiseb Kevin O’Connell ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i gam-drin plant yn rhywiol gan fynachod ar Ynys Bŷr ei gwrthod fis yn ôl gan bwyllgor deisebau Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan hefyd ddiystyru ymchwiliad, gan ddweud mewn llythyr: “Nid oes unrhyw arwydd y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn datgelu unrhyw fewnwelediadau sylweddol nad oes gennym eisoes i’r sefyllfa.”

Fodd bynnag mae ymgyrchwyr, gan gynnwys Kevin O’Connell, yn dweud eu bod yn croesawu penderfyniad Heddlu Dyfed Powys i ail-agor yr ymchwiliad.

“Methiannau”

Mae ymgyrch Kevin O’Connell yn cael ei gefnogi gan gyfreithiwr ymchwiliad cyhoeddus dioddefwyr blaenllaw Cymru, Michael Imperato.

“Mae’r mater yn codi pryderon eang ynghylch methiannau posibl cyrff cyhoeddus a diffyg diogelwch diogelu plant,” meddai.

“Dylid tynnu sylw at hyn a bydd gwersi’n sicr o gael eu dysgu.

“Mae’n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi bod mor gyson yn gwrthod ystyried cais am ymchwiliad cyhoeddus.

“Mae hyn ond wedi ychwanegu at straen a phryder dioddefwyr a’r ymdeimlad o anghyfiawnder parhaus.

“Er y gallai fod yn anodd, byddwn yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen a chefnogi’r frwydr dros ymchwiliad cyhoeddus llawn.”