Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi newidiadau newydd i’r cytundeb meddygon teulu “i wella’r system apwyntiadau”.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y newidiadau, sy’n cael eu hariannu gan £12m o fuddsoddiad ychwanegol, yn ei gwneud hi’n haws i gael apwyntiadau gyda meddyg teulu.
Bydd y cytundeb newydd yn nodi nad yw’n dderbyniol rhyddhau apwyntiadau bob dydd am 8y.b., wrth i Eluned Morgan ddweud bod y system honno yn arwain at “dagfa”.
Y gobaith yw y bydd yr ymrwymiad newydd i gael mynediad i feddygon teulu yn helpu i sicrhau bod pobol yn cael eu blaenoriaethu’n briodol ar frys, ac os oes angen, fod pobol yn cael apwyntiad sy’n iawn ar gyfer eu hanghenion clinigol.
Lle y bo’n briodol, bydd modd cyfeirio pobol at wasanaeth arall – neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol – a all eu helpu neu eu cefnogi.
Bydd cytundeb newydd y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) hefyd yn cynnwys codiad cyflog o 3% ar gyfer meddygon teulu a staff meddygfeydd, a chyllid ychwanegol i gynyddu capasiti a staffio i helpu i ymateb i bwysau’r gaeaf.
Bydd y £4m o gyllid ychwanegol ar gael i feddygon teulu ar gyfer y dair blynedd nesaf, fesul blwyddyn ariannol, i sicrhau bod y capasiti ychwanegol yn cael ei gadw.
‘Gwella’r system apwyntiadau’
“Rydym yn gwybod fod meddygon teulu a’u staff dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd,” meddai Eluned Morgan.
“Maent wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ystod y pandemig.
“Felly, rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu cytuno ar gontract newydd sy’n gwobrwyo’r holl staff sy’n gweithio o fewn practisau meddygon teulu drwy roi codiad cyflog iddynt.
“Rydyn ni hefyd wedi cytuno ar ffordd ymlaen i wella’r system apwyntiadau.
“Rydw i am weld diwedd ar y dagfa 8y.b. lle mae’n rhaid i gleifion ffonio eu practis dro ar ôl tro i gael apwyntiad.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi practisau meddygon teulu i feithrin capasiti a rhoi systemau mwy effeithlon ar waith ar gyfer trefnu apwyntiadau er mwyn rheoli anghenion cleifion yn well.
“Rydw i hefyd wedi cyhoeddi £2m yn ychwanegol i helpu i leddfu’r pwysau uniongyrchol y mae ein meddygon teulu yn ei wynebu’r gaeaf hwn.
“Fel llywodraeth, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi meddygon teulu sy’n gweithio mor galed, ac rwy’n annog y cyhoedd i ddilyn y cyngor ‘Helpwch Ni i’ch Helpu Chi’ drwy ystyried ffyrdd eraill o gael cyngor a chymorth meddygol y gaeaf hwn.
“Gall y gwasanaeth 111 ar-lein a’ch fferyllfa leol roi cyngor ar salwch a chyflyrau meddygol nad ydynt yn achosion brys.”
‘Cyfnod heriol iawn’
“Rydym yn falch bod y cytundeb teirochrog hwn wedi’i gytuno, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad holl staff practisau meddygon teulu,” meddai Nick Wood, cyfarwyddwr gweithredol gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
“Mae’r codiad cyflog o 3% ar gyfer pob meddyg teulu ac aelodau o staff practisau yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi’r gweithlu, a chynaliadwyedd y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.
“Bydd y trefniadau ehangach, gan gynnwys ymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at wasanaethau a’r buddsoddiad mewn capasiti staffio, yn galluogi byrddau iechyd i weithio’n agos gyda phractisau meddygon teulu a gwella’r gwasanaeth mewn ffordd sydd o fudd i gleifion mewn cyfnod heriol iawn.”