Mae angen “ymyrraeth ar frys yn ein gwasanaethau iechyd”, yn ôl Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Paul Davies, arweinydd dros dro’r blaid, y dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar yr “argyfwng presennol” yn y Gwasanaeth Iechyd yn hytrach na materion cyfansoddiadol a datganoli darlledu.
Fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, byddan nhw’n edrych ar ymrwymiad i “ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru, i fynd i’r afael â’n pryderon am sefyllfa fregus y wasg ac ymosodiadau ar ei hannibyniaeth”.
Cyfeiriodd Paul Davies at gyfres o bryderon ynglŷn â’r pwysau ar wasanaethau iechyd, gan gynnwys rhestrau aros a chapasiti gwlâu, gan fynnu “ymyrraeth frys yn ein gwasanaethau iechyd”.
Daw hyn yn dilyn y newyddion bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cefnogi galwadau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ac ymgyrchwyr am ymchwiliad penodol i Gymru.
“Wrth i ni agosáu at y gaeaf, bydd pwysau pellach ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd, a chyda’r newyddion bod yna amrywiolyn Covid newydd yn y DU, mae’n hanfodol nawr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun i sicrhau bod amseroedd aros yn cael sylw ac nad yw marwolaethau y gellir eu hatal yn digwydd,” meddai Paul Davies.
Ystyried camau pellach
Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried dros y dyddiau nesaf a oes angen cymryd camau pellach, fel cau ysgolion yn gynnar, yn sgil datblygiad amrywiolyn diweddaraf Covid-19, medd Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Eisoes mae gwisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd wedi’i ailgyflwyno.
Mae hi ond yn “fater o amser” cyn y daw achosion amrywiolyn Omicron i’r fei yng Nghymru ac “mae’n bosibl bod rhai yma eisoes”, yn ôl Eluned Morgan.
Wrth ymateb i sylwadau Paul Davies, dywedodd y Prif Weinidog fod “mwy o bobol yn gweithio yn Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, ac mae hynny’n cynnwys mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o ffisiotherapyddion, mwy o therapyddion galwedigaethol, a’r holl dîm sy’n mynd i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru”.
“Mae hynny’n ganlyniad i fuddsoddiad parhaus gan Lywodraethau Cymru olynol yn ein GIG ac yn ei weithlu,” meddai.
Llythyr
Wrth alw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, soniodd Mark Drakeford am lythyr mae e wedi’i dderbyn gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhoi “cyfres o ymrwymiadau” am natur ymchwiliad cyhoeddus y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cynnwys llywodraethau datganoledig wrth benodi’r Cadeirydd ac yn y cylch gorchwyl.
Dywed Mark Drakeford ei fod yn “tynnu rhywfaint o hyder” o lythyr y prif weinidog ond fod “llawer iawn o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu cyflawni’n ymarferol”.