Bydd y sawl sy’n arwain ymchwiliad Covid ledled y Deyrnas Unedig am i’r ymchwiliad fod yn “weladwy ac yn hygyrch i bobol Cymru”, meddai Boris Johnson wrth Mark Drakeford.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud ei bod yn “bwysig iawn dangos” i’r rhai sy’n galw am ymchwiliad Cymreig “y bydd ymchwiliad yn y Deyrnas Unedig yn clywed eu pryderon ac yn mynd i’r afael â’r materion y maent yn eu codi”.

Yn ddiweddar, galwodd Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, am ymchwiliad penodol i Gymru.

Ond mae Mark Drakeford wedi dweud yn gyson mai ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig fyddai orau i Gymru.

Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ynghyd â grwpiau ymgyrchu wedi galw ar y llywodraeth i newid eu meddwl.

‘Ymrwymiadau’

Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30), dywedodd Mark Drakeford fod ymateb Boris Johnson yn rhoi “cyfres o ymrwymiadau” ynglŷn â natur yr ymchwiliad cyhoeddus, gan gynnwys y llywodraethau datganoledig.

Yn ei lythyr, dywedodd Boris Johnson ei fod yn bwriadu sefydlu’r ymchwiliad cyhoeddus “ar yr egwyddor bod ei gylch gorchwyl ar draws y Deyrnas Unedig cyn belled ag y bo modd”.

Ailadroddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei ymrwymiad i benodi cadeirydd cyn y Nadolig.

Fe fydd y person hwnnw’n ymgynghori â’r cylch gorchwyl, y llywodraethau datganoledig, teuluoedd mewn profedigaeth a “grwpiau eraill”.

“Rwy’n siŵr y bydd y cadeirydd am sicrhau mai’r ymchwiliad sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y profiad yng Nghymru yn llawn, a bydd yn deall pwysigrwydd bod yr ymchwiliad yn weladwy ac yn hygyrch iawn i bobol Cymru,” meddai Mark Drakeford.

Wrth ymateb ar lawr y Siambr, fe Paul Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo Mark Drakeford o amddifadu pobol Cymru o’r “atebion maen nhw’n eu haeddu” drwy osgoi ymchwiliad i Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig “fel bod pobol yng Nghymru yn cael ymchwiliad lle gallant fod â hyder y byddant yn cael yr atebion priodol y maen nhw’n eu ceisio.”