Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi canllawiau i geisio mynd i’r afael ag achosion Covid-19.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Gwynedd wedi gweld cynnydd sylweddol yn niferoedd Covid-19, gyda chyfraddau’r haint yn y sir ymhlith yr uchaf yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r cynnydd mewn achosion wedi effeithio ar gymunedau ar draws yr ardal gyfan, gydag achosion diweddar i’w gweld yn ardaloedd Caernarfon, Bala, Ffestiniog, Dolgellau a Phen Llŷn. Mae’r cynnydd hwn hefyd wedi effeithio ar rai ysgolion ledled y sir.
Fel rhan o’r ymdrechion i atal y lledaeniad, mae Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 aml-asiantaeth Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda’r Adran Addysg i sicrhau bod trefniadau cadarn a chymesur ar waith mewn ysgolion unigol.
Mae’r canllawiau yn cynnwys:
- Derbyn brechlyn.
- Mynd i apwyntiad brechlyn atgyfnerthu Covid-19 – pan fyddwch chi’n gymwys fe’ch gwahoddir yn uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bod yn wyliadwrus am unrhyw symptomau Covid-19
- Dilyn cyngor tîm Profi, Olrhain a Diogelu Gwynedd
- Gwisgo gorchudd wyneb bob amser wrth ymweld â siopau neu unrhyw fannau cyhoeddus dan do
- Cyfyngu cysylltiad â grwpiau mawr o bobol gymaint â phosib, a chymryd prawf llif unffordd cyn ac ar ôl bod allan
- Cyfarfod pobol tu allan pan fo’n bosib.
‘Testun pryder’
“Mae nifer yr achosion yng Ngwynedd yn sefydlog ond yn parhau i fod yn destun pryder ac rydym yn annog holl drigolion i barhau i chwarae eu rhan i gadw ein cymunedau’n ddiogel,” meddai Dafydd Williams, cadeirydd Grŵp Gwyliadwraeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd.
“Rydyn ni wedi gweld achosion o Covid-19 mewn ysgolion ledled y sir.
“Pan fydd achosion yn cael eu hadnabod mewn ysgol mae trefniadau cadarn ar waith i reoli’r gadwyn drosglwyddo.
“Mae mesurau amddiffyn ychwanegol yn cael eu gweithredu pan fydd 10% o ddisgyblion mewn dosbarth neu flwyddyn ysgol wedi profi’n bositif am COVID-19, gyda dysgu rhithiol yn cael ei fabwysiadu pan fydd 25% yn profi’n bositif.
“O’r 94 o ysgolion uwchradd a chynradd yng Ngwynedd, mae gan ddeg o’r rheini rai dosbarthiadau neu flynyddoedd ysgol ar hyn o bryd yn derbyn eu haddysg yn rhithiol.
“Mae’r modd yma sy’n targedu fel sydd angen wedi’i gymeradwyo gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd ar y grŵp ymateb a gwyliadwriaeth.
“Mae’n ein helpu i reoli unrhyw glystyrau o achosion ac i gadw disgyblion, a gweddill poblogaeth Gwynedd, yn ddiogel rhag effeithiau Covid-19. “