Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod “niwed wedi’i wneud i’n democratiaeth pan fo gallu defnyddio’r gair celwyddgi yn y lle hwn yn sylw teg a derbyniol”.
Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn siarad yn ystod dadl ynghylch pleidlais i geryddu Boris Johnson.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn sgil “sgandal ar ôl sgandal” o dan oruchwyliaeth prif weinidog y Deyrnas Unedig.
Fe alwodd ar y Ceidwadwyr i feirniadu ymddygiad eu harweinydd – fel arall, byddai’n dangos bod “un rheol iddyn nhw a rheol arall i bawb arall”, meddai.
“Fis ar ôl mis, sgandal ar ôl sgandal, mae’r rhestr o gyhuddiadau’n mynd yn fwy ac yn fwy ond does yna neb yn cael ei ddwyn i gyfrii,” meddai.
“Os yw’r cyhoedd am gael hyder yn y lle hwn, yna mae’n rhaid i hynny newid heddiw.
“Oherwydd oni bai bod y prif weinidog yn wynebu canlyniadau – oni bai ei fod yn cael ei geryddu – fydd e ddim yn unig yn meddwl ei fod e wedi cael dod i ffwrdd â’r llanast wnaeth e dros y misoedd diwethaf, ond fe fydd yn credu y gall wneud hynny eto.”
‘Tymor y pantomeim wedi dod yn gynnar’
Ond wrth ymateb, dywedodd un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod cynnig yr SNP yn awgrymu bod “tymor y pantomeim wedi dod yn gynnar”.
Mae Michael Ellis, gweinidog yn y Swyddfa Gabinet, wedi cyhuddo Ian Blackford o “gymeriadu dros ben llestri” wrth drafod Boris Johnson, ac o “lansio tymor y pantomeim yn gynnar ym mis Tachwedd”.
Dywedodd fod yr SNP yn “arbenigo mewn straeon tylwyth teg ffantasïol”.
‘Celwyddgi’
Wrth ymateb wedyn i honiadau Ian Blackford fod Boris Johnson yn “gelwyddgi”, dywedodd y Dirprwy Lefarydd Eleanor Laing y byddai’n “well pe na bai geiriau o’r fath yn cael eu defnyddio yn y lle hwn”.
Ond dywedodd fod y cynnig yn “benodol iawn” ac yn “mynd i’r afael ag ymddygiad aelod o’r Tŷ hwn, yn wir y prif weinidog, felly alla i ddim ei atal rhag defnyddio’r gair mae e newydd ei ddefnyddio”.
Cadarnhaodd nad oedd yn credu bod Ian Blackford “wedi mynd y tu hwnt i’r rheolau” wrth ddefnyddio’r gair, ond awgrymodd y byddai’n well pe bai aelodau eraill yn ymatal rhag ei ddefnyddio, gan gyfeirio’n benodol at Liz Saville Roberts.