Disgynnodd coed “unigryw” ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys ym Modnant ac Erddig, yn sgil Storm Arwen.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y gerddi, wedi colli miloedd o goed dros Gymru a Lloegr yn sgil y gwyntoedd cryfion

Mae’r elusen dal wrthi’n asesu’r difrod, ond mae’n debyg y bydd y gwaith adnewyddu yn costio o leiaf £3 miliwn, meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Disgynnodd dros 50 o goed yng Ngerddi Bodnant, gan gynnwys coeden goch (coast redwood) 51 medr o daldra a rhododendrons hybrid sy’n unigryw i’r safle.

Fe wnaeth y difrod adael nifer o’r staff mewn dagrau, ac mae disgwyl iddi gymryd misoedd i glirio’r safle.

Disgynnodd miloedd o goed yn Wallington yn Northumberland, gan gynnwys hanner cenhedlaeth o goed derw a ffawydden 250 oed, a chafodd Erddig ei tharo’n wael hefyd.

Fe wnaeth cannoedd o goed ddisgyn ar safleoedd megis Wray Castle, Fell Foot, a Sizergh yng ngogledd Lloegr, ac mae hi’n amhosib cael mynediad at Tarn Hows, a oedd yn arfer bod yn eiddo i Beatrix Potter, yn Ardal y Llynnoedd gan fod coed yn rhwystro’r llwybrau a’r ffyrdd.

“Ergyd fawr i dreftadaeth Brydeinig”

Dywedodd Andy Jasper, pennaeth gerddi a pharciau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fod Storm Arwen wedi bod yn “ergyd fawr i dreftadaeth Brydeinig” ym Modnant gan fod rhai o goed cynharaf a mwyaf pwysig yr ardd wedi disgyn.

“Gan ei bod hi’n Wythnos Genedlaethol y Goeden roedden ni wedi disgwyl bod yn dathlu’r coed rhyfeddol sydd yn ein gofal – nid gweld y raddfa hon o ddinistr,” meddai Andy Jasper.

“Ond mae arwyddocâd newydd i’r wythnos hon i ni, ac rydyn ni’n gofyn i’n cefnogwyr gyfrannu, os ydyn nhw’n gallu, er mwyn ein helpu ni i adfer y llefydd sydd wedi’u heffeithio.”

Dywedodd y byddai’n cymryd misoedd i glirio’r gerddi, a blynyddoedd neu ddegawdau i’w hadfer – ac ni fydd rhai ohonyn nhw fyth yr un fath eto.

“Crio”

Ychwanegodd Adam Salvin, prif arddwr dros dro Gerddi Bodnant, ei bod hi wedi “bod yn sioc wirioneddol i staff a gwirfoddolwyr wrth ddod mewn a gweld y difrod gafodd ei achosi mewn un noson”.

“Mae yna grio wedi bod,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweld stormydd a llifogydd yma o’r blaen, ond does dim difrod i’r fath raddfa wedi digwydd o fewn cof.”

Mae’r ymddiriedolaeth yn gofyn i bobol wirio gwefannau eu tai a gerddi yng ngogledd Cymru a Lloegr, gan fod rhai llefydd dal ar gau a rhai llwybrau cerdded wedi’u haddasu yn sgil y difrod.