Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ei hail etholiad ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Gwnaeth bron i 300 o ymgeiswyr gystadlu am 60 sedd gyda phob etholaeth yng Nghymru yn gweld aelodau’n sefyll yn y gobaith o gynrychioli eu hardal.
Cafodd miloedd o bleidleisiau eu bwrw ar-lein gan bobl ifanc yn ystod tair wythnos o ymgyrchu.
Pan dderbyniodd Qahira Shah, Aelod newydd y Senedd Ieuenctid Cymru dros Dde Caerdydd a Phenarth, y newyddion ei bod wedi ennill doedd hi “methu credu’r peth”.
“Mis o ddisgwyl a hwn oedd y newyddion gorau posib!” meddai.
“Roedd ymgyrchu yn agoriad llygad. Mentrais i mewn i sefyllfaoedd anghyffredin fel siarad â fy mlwyddyn ysgol a mynd drws i ddrws yn fy nghymuned yn chwilio am bleidleiswyr.
“Mae gennyf i gymaint o syniadau rydw i’n edrych ‘mlaen i drafod â fy nghyd-Aelodau.
“Dwi’n ysu i weld newidiadau yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc; boed yn faterion amgylcheddol neu daclo anghyfartaledd cymdeithas.
“Mae’r ymgyrchu a phleidleisio wedi dod i ben ond rydw i ond jest yn dechrau!”
Aelodau etholaeth ac o sefydliadau
Yn yr un modd â’r Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf yn 2018-20, cafodd y 40 sedd etholaethol eu penderfynu gan bleidleisiau pobl ifanc.
Sefydliadau partner a ddewisodd yr 20 Aelod arall o blith sefydliadau fel Yr Urdd, Tros Gynnal Plant Cymru, GISDA, Llamau, Tŷ Hafan er mwyn sicrhau cynrychiolaeth i grwpiau amrywiol o bobl ifanc.
Yn cynrychioli’r Urdd fydd Elena Ruddy gyda disgwyl i enwau aelodau Care Cymru a Llamau i’w cyhoeddi yn fuan.
Mae Lloyd Warburton, 17 o Aberystwyth, sy’n gwneud dadansoddiadau ystadegol yn ystod y pandemig wedi ei ethol ar gyfer etholaeth Ceredigion.
Mae rhestr gyflawn o’r ymgeiswyr buddugol i’w weld ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd eu seddi yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd.
‘Cyfrannu llawer i’n cymdeithas’
Yn ôl y Llywydd Elin Jones mae’n falch iawn i gyhoeddi’r enwau llwyddiannus.
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r 60 Aelod newydd o Senedd Ieuenctid Cymru a fydd yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.
“Mae pobl ifanc yn cyfrannu llawer i’n cymdeithas ac nid yw eu rhan yn ein gwlad damaid yn llai na rhan neb arall – mae’n hanfodol bod ganddyn nhw gyfle i gymryd rhan yn ein democratiaeth.
“Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyfan gwych ar gyfer lleisiau a safbwyntiau sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae’n caniatáu i bobl ifanc Cymru osod yr agenda a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
“Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau a etholir heddiw yn glod i’w hetholwyr a phob person ifanc ledled Cymru yn ystod y tymor hwn.”
Tri mater blaenoriaeth
Ym mis Hydref 2016, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd i sefydlu senedd ieuenctid penodedig i Gymru.
Ymgynghorodd y Senedd â dros 5,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i helpu i benderfynu ar nod, aelodaeth a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.
Rhwng 2021 a 2023, sef eu tymor yn y Senedd Ieuenctid, bydd yr Aelodau’n hoelio eu sylw ar dri mater blaenoriaeth.
Mae’r rhain yn cyfuno blaenoriaethau’r ymgeiswyr eu hunain â materion mae pobl ifanc wedi’u codi mewn sgyrsiau a gynhaliwyd mewn ysgolion a digwyddiadau allanol a thrwy gyflwyniadau ar-lein.
Trwy gwrdd yn rheolaidd, ymgynghori a phobl ifanc a thrwy arwain ymchwiliadau, byddent yn trafod y materion sydd o bwys i bobl ifanc er mwyn dwyn sylw gwleidyddion etholedig y Senedd.