Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cydnabod fod yna ormod o ail gartrefi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, a lofnodwyd yn swyddogol heddiw (Rhagfyr 1), mae ymrwymiad i gymryd “camau uniongyrchol a radical” i fynd i’r afael â nifer yr ail gartrefi yng Nghymru ac i wneud tai’n fwy fforddiadwy.

Fe ddywedodd Mark Drakeford ei fod yn poeni am effaith ail gartrefi ar gymeriad cymunedau.

“Rwy’n credu bod hynny’n newid cymeriad y lleoedd hynny,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Cymru.

“Felly, mewn rhai rhannau o Gymru, mae gormod o ail gartrefi, ond mae hynny mewn ardaloedd penodol lle mae angen mathau penodol o atebion.”

“Mae gennym bentrefi cyfan lle mae dros hanner y cartrefi yn cael eu meddiannu dim ond am ran o’r flwyddyn.”

Bwlch yn y gyfraith

Dan y cytundeb cydweithio mae’r camau’n cynnwys “defnyddio systemau cynllunio, eiddo a threthiant” i gapio ail gartrefi a mwy o bwerau i awdurdodau lleol gynyddu trethi ar ail gartrefi.

Mae ymgyrchwyr tai wedi codi pryderon ynghylch bwlch yn y gyfraith sy’n caniatáu i berchnogion tai osgoi cyfraddau premiwm o dreth gyngor ar ail gartrefi drwy gofrestru eu cartrefi fel busnesau.

Ond fe bwysleisiodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i berchnogion ail gartrefi dalu’r cyfraddau cywir.

“Rydym yn disgwyl i bobl sydd mewn sefyllfa ffodus iawn o allu fforddio dau gartref yn hytrach nag un, wneud eu cyfraniad,” meddai.

“Yr hyn yr ydym yn y busnes o’i wneud yw ceisio sicrhau bod pobl leol, pobl ifanc yn arbennig, yn cael cyfle teg i fynd ati i fyw yn tyfu i fyny a chyfrannu yn y cymunedau y cawsant eu geni ynddynt, gan helpu i greu cymeriad y cymunedau hynny sy’n ei gwneud yn ddeniadol i bobl eraill.”

Mae rhai perchnogion ail gartrefi yn honni eu bod yn cael eu gwneud yn ‘scapegoats’ ac yn cael eu trin yn annheg.

Maen nhw’n dadlau mai prinder tai fforddiadwy yw’r broblem wirioneddol.

Ond mae Mark Drakeford wedi gwadu fod perchnogion ail gartrefi yn cael y bai am y sefyllfa.

Ar hyn o bryd mae yna 24,873 o ail gartrefi wedi eu cofrestru yng Nghymru – a Gwynedd sydd â’r nifer uchaf o ail gartrefi, sef 5,098, sy’n 20% o’r holl ail gartrefi yng Nghymru.

Mae hyn golygu bod un ymhob deg tŷ yn y sir bellach yn ail gartref.

Effaith ar wasanaethau cyhoeddus

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd heddiw fe ddywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, na all cymunedau ardaloedd y sir ddelio â’r sefyllfa ar hyn o bryd.

“Mae hyn yn seiliedig ar y niferoedd o ail gartrefi, ac rydym yn gallu delio gyda niferoedd bychain, ond unwaith i chi gyrraedd rhif arbennig mae cael tai gwag yn effeithio ar bopeth,” meddai wrth Aelodau o’r Senedd.

“Gyda thai haf ni’n colli stoc i bobl leol sydd am fyw yn eu cymunedau ac yn sgil hynny y mae ardaloedd yn colli gwasanaethau.

“Mae hynny wedi arwain at sefyllfa eithriadol wrth edrych ar gymuned fel Abersoch efo saith o ddisgyblion yn unig yno gyda’r Ysgol yn orfod cau yn sgil hynny.”

Fe ychwanegodd drwy ddweud bod perchnogaeth ail gartref yn “anfoesol” gan fod “yna bobl sy’n berchen ar fwy nag un tŷ pan mae pobl eraill heb un cartref”.

Cyngor Gwynedd yn croesawu cyhoeddiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru

“Moment arwyddocaol” wrth i Lywodraeth Cymru gychwyn ar y broses i wneud newidiadau i reoliadau cynllunio i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi
Rali Nid Yw Cymru Ar Werth

Ail gartrefi: fe allai cynghorau sir dderbyn pwerau newydd i ddelio â’r argyfwng tai

Fe allai cynghorau sir dderbyn pwerau a fyddai’n cyfyngu ar greu tai haf y flwyddyn nesaf