Mae’r Llywydd, Elin Jones yn dweud ei bod yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Yn ôl Elin Jones, sy’n gyfrifol am redeg y Senedd, mae’r “trefniadau” yn newydd ac yn codi cwestiynau am y ffordd mae’r senedd yn cynnal ei busnes.
Ni fydd Aelodau o’r Senedd dros Blaid Cymru’n dod yn weinidogion yn y cabinet ond byddant yn cael dau gynghorydd arbennig, sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y fargen.
Dywedodd Elin Jones mai diben y cyngor cyfreithiol oedd edrych ar “statws Plaid Cymru” i weld os ydyn nhw’n grŵp yn y Senedd, neu a fyddan nhw’n chwarae rhan weithredol fel rhan o Lywodraeth Cymru.
Ond fe ychwanegodd mai ei “barn ragarweiniol” oedd nad yw Plaid Cymru “yn grŵp sydd â rôl weithredol” o dan delerau’r cytundeb.
Fe ddywedodd ei bod hi wedi holi’r Prif Weinidog am fwy o fanylion am rôl ‘Aelodau Dynodedig’, a dywedodd bod angen ystyried hynny’n ofalus.
Fe ofynnodd hefyd am “fwy o eglurder” ar “nifer, cylch gwaith a chyfrifoldebau yr Aelodau Dynodedig” ac ar y Prif Weinidog i gyhoeddi eu “henwau a phortffolios”.
Statws fel gwrthblaid
Daw hyn wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig gwestiynu statws Plaid Cymru fel gwrthblaid.
Dywedodd AoS Darren Millar, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad, y byddai Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru’n gweithio “law yn llaw mewn trefniant sy’n gopi carbon o’r un yn yr Alban rhwng y cenedlaetholwyr a’r Gwyrddion,” gan gyfeirio at gytundeb sydd wedi rhoi gweinidogion Gwyrdd yn llywodraeth yr SNP.
Galwodd y blaid ar y Llywydd i “gymryd camau ar unwaith i ailedrych ar statws wrthbleidiol y Blaid, lleihau eu hamser penodedig mewn cwestiynau a dadleuon, fel yn achos y Gwyrddion yn Holyrood, a dileu cyfrifoldeb y Blaid dros gadeirio’r Pwyllgor Cyllid, o ystyried ei rôl graffu hanfodol ar gyllideb y llywodraeth”.
“Ni allwn fforddio i hygrededd busnes y Senedd gael ei danseilio gan ystyried ei rôl hanfodol mewn craffu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif,” ychwanegodd Mr Millar.
‘Codi Cwestiynau’
Mewn datganiad fe ychwanegodd y Llywydd: “Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru wedi llofnodi Cytundeb Cydweithredu yn gynharach heddiw.”
“Yn dilyn y cyhoeddiad cychwynnol yr wythnos ddiwethaf bûm yn llythyru â’r Prif Weinidog a gofynnais i union fanylion gweithrediad y Cytundeb gael eu cyhoeddi, a bydd yr Aelodau wedi gweld bod y mecanwaith a chod ymddygiad ar gyfer Aelodau Dynodedig Plaid Cymru wedi’u cyhoeddi’r bore yma.
“Mae’r Cytundeb yn gwneud trefniadau sy’n newydd ac yn codi cwestiynau ynglŷn â gweithrediad Busnes y Senedd.
“Felly, rwyf wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar effaith y Cytundeb ar statws Plaid Cymru fel grŵp ac yn benodol a ydynt yn grŵp sydd â rôl weithredol.”
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi: ‘At ddibenion y Ddeddf hon mae grŵp gwleidyddol ddim ond yn grŵp gwleidyddol sydd â rôl yn y gweithgor os yw’r Prif Weinidog Cymru, neu un neu ragor o Weinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 yn perthyn iddo.’
“Cyhyd â mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn y cwestiwn, mae’r cyfeiriadau at ‘rôl weithredol’ ddim ond yn berthnasol i grŵp plaid sydd wedi ymuno â’r llywodraeth, yn yr ystyr bod o leiaf un aelod wedi’i benodi’n Un o Weinidogion Cymru neu’n Brif Weinidog Cymru,” meddai Elin Jones.
“O dan delerau’r Cytundeb, ni fydd gan Blaid Cymru unrhyw rolau gweinidogol ac felly fy marn ragarweiniol yw nad ydynt yn grŵp sydd â rôl weithredol.
“Fy rôl fel Llywydd yw sicrhau ein bod yn cynnal egwyddorion tryloywder ac atebolrwydd a bod trefniant busnes y Senedd yn hwyluso craffu ar y llywodraeth.”
Unwaith y bydd yna “eglurder pellach” fe ddywedodd y Llywydd y byddai’n cysylltu â phwyllgor Busnes y Senedd gan wneud “datganiad pellach ar sut mae’r Cytundeb yn debygol o effeithio ar weithrediad cyfarfodydd llawn a chyfarfodydd pwyllgor.”