Ar Ddiwrnod Aids y Byd heddiw (1 Rhagfyr), mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru’n galw am ddull mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru er mwyn dileu achosion newydd o HIV erbyn 2030.

Mae galwadau’r elusen yn cynnwys cynyddu profion a lleihau diagnosis HIV hwyr er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cadw at eu hymrwymiad a chyrraedd y garreg filltir ymhen degawd.

Bydd Cynllun Gweithredu ar HIV yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi’n fuan flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Aelodau Seneddol Llafur, Plaid Cymru, a Cheidwadol wedi cefnogi galwadau’r elusen, sydd hefyd yn gofyn am sefydlu ymrwymiadau iechyd rhywiol clir ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Maen nhw hefyd yn galw am gymorth Llywodraeth Cymru i gefnogi pobol sy’n byw gyda HIV, a chanolbwyntio ar roi terfyn ar y stigma o amgylch HIV.

Erbyn heddiw, mae modd trin HIV yn llwyddiannus â meddyginiaeth sy’n gostwng lefel y firws yn y corff mor isel fel nad oes modd iddo drosglwyddo o un person i’r llall.

Mae pobl sy’n byw gyda HIV heddiw felly yn gallu byw bywydau llawn, a chyn hired â phawb arall.

Triniaeth newydd

O heddiw ymlaen, bydd yna driniaeth newydd ar gyfer HIV ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Bydd y driniaeth chwistrell hir-weithredol yn golygu na fydd rhaid i’r rhai sy’n ei derbyn gymryd meddyginiaeth ddyddiol er mwyn trin HIV.

Ers cyflwyno PrEP, meddyginiaeth anti-feiral sy’n gallu atal pobol rhag cael HIV yn y lle cyntaf, yng Nghymru bedair blynedd yn ôl, does dim achosion newydd wedi cael eu canfod ymysg y rhai sy’n ei gymryd, meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

“Serch hynny, yn ystod y pandemig, mae’r defnydd o PrEP wedi lleihau,” meddai wrth y Senedd.

“Mae sawl rheswm posibl dros hyn, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid, gan gynnwys y Terrence Higgins Trust, ar ymgyrch i gynyddu gwybodaeth am PrEP yng Nghymru i annog pobl i’w ddefnyddio ac i wella mynediad at PrEP.

“Mae achosion newydd o HIV yng Nghymru yn mynd tuag i lawr. Mae’n hanfodol bod y duedd hon yn parhau. Mae’n bwysig hefyd sicrhau diagnosis cynnar o achosion newydd o HIV a bod cleifion yn cael gofal o’r safon uchaf.”

Yn 2021, roedd dros 2,300 o bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael gofal HIV, meddai Eluned Morgan, a dywedodd y bydd y nifer yn cynyddu wrth i fwy o bobol wybod eu statws HIV a chael triniaeth effeithiol.

“Herio rhagfarn”

Wrth gyfeirio at alwadau Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, dywedodd Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru yn y Senedd, ei fod yn eu cefnogi.

“Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn amser i fyfyrio ar sut mae pethau wedi symud ymlaen ers i’r achos cadarnhaol cyntaf o HIV gael ei adrodd 40 mlynedd yn ôl a chofio’r holl bobl hynny a fu farw o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag Aids,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae hefyd yn gyfle i weld ble rydyn ni’n mynd o ran lleihau cyfraddau heintio HIV a’r hyn y mae angen i ni ei wneud i gyrraedd ymrwymiad y llywodraeth i ddileu achosion cadarnhaol erbyn 2030.

“Mae lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â HIV hefyd yn bwysig.

“Mae awgrym ymgyrch gwrth-stigma genedlaethol i Gymru yn un y byddwn yn ei groesawu gan y byddai’n herio rhagfarn ac yn hyrwyddo dealltwriaeth dda o’r hyn y mae byw gyda HIV yn ei olygu.”

“Diwedd ar y stigma”

Ar Twitter, dywedodd Samuel Kurtz, yr Aelod o’r Senedd Ceidwadol dros dde Sir Benfro a Gorllewin Caerfyrddin, ei fod am “roi teyrnged i’r rhai sydd wedi colli’u bywydau yn sgil AIDS, 40 mlynedd ers y diagnosis HIV cyntaf yn y Deyrnas Unedig”.

“Rhaid i’r gwaith barhau er mwyn rhoi diwedd ar y stigma a chael gwared ar yr afiechyd hwn unwaith ac am byth,” meddai Samuel Kurtz.

“Diolch i Ymddiriedolaethau Terrence Higgins Cymru am eu holl ymdrechion hyd yn hyn.”

Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw am wella’r gwasanaethau ym Mhowys, gan ddweud bod diffyg mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol a phrofi mewn ardaloedd gwledig yn dal unigolion yn ôl.

Lluoedd arfog

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am gael gwared ar y gwaharddiad sy’n atal pobol sydd â HIV rhag ymuno â’r lluoedd arfog.

Bydd pobol sy’n derbyn triniaeth, ac sydd â llwyth feiral mor isel o HIV yn eu gwaed fel nad ydyn nhw’n gallu ei basio ymlaen, yn cael gwasanaethu yn y fyddin o hyn ymlaen.

Y Deyrnas Unedig yw’r ail wlad yn y byd, ar ôl De Affrica, i ganiatáu i bobol â HIV ymuno â’r fyddin, a dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Ian Green, fod heddiw’n “ddiwrnod pwysig sy’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod yn y frwydr yn erbyn HIV”.

Codi ymwybyddiaeth

Mewn rhaglen ar S4C heno, Cymru, HIV ac AIDS, bydd pobol o Gymru sy’n byw â HIV, a phobol sy’n arwain y frwydr yn erbyn y feirws, yn trafod ei hanes a’i ddyfodol.

Mae’r stigma ynghylch HIV ac AIDS yn waeth yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain, yn ôl gwaith ymchwil.

Yn ôl Christian Webb, a oedd yn rhan o dreialon gwreiddiol y cyffur PrEP yng Nghymru ag a fydd yn rhan o’r rhaglen ddogfen ar S4C, mae trin a thrafod y feirws yn “hollbwysig”.

“Sai’n credu bod ni yng Nghymru yn dda yn siarad am iechyd rhywiol, heb sôn am HIV ac AIDS.

“Mae angen yr addysg a’r codi ymwybyddiaeth ar lefel cymdeithasol er mwyn taclo’r stigma a’r arwahanu.”

  • Cymru, HIV ac AIDS ar S4C heno (nos Fercher, 1 Rhagfyr) am 9yh.