Mae’r cerflunydd Sebastien Boyesen wedi ei gomisiynu i greu cerflun o’r bardd ac ymgyrchydd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, ym mhentref Llangrannog.
Bydd Boyesen, sydd wedi gweithio fel arlunydd a dylunydd ers dros 35 o flynyddoedd, yn creu’r cerflun fel rhan o ymgyrch Monumental Welsh Women i gydnabod cyfraniad ffigyrau benywaidd o Gymru.
Fe ymddangosodd Cranogwen, a arloesodd ym meysydd newyddiaduraeth, barddoniaeth, mordwyo ac addysg, ar restr Merched Mawreddog y BBC yn 2019.
Mae Boyesen, sydd ei hun yn byw yn Llangrannog, eisoes wedi darparu cerflun o Sant Carannog i’r gymuned, a bydd yn mynd ati nawr i weithio ar y cerflun o Cranogwen, sydd am gael ei osod gyferbyn â mynwent yr Eglwys ble’i claddwyd.
Bydd cerflunydd benywaidd addawol o Ysgol Gelf Caerfyrddin hefyd yn cael cyfle i weithio gyda Boyesen ar y comisiwn yn rhan o raglen arbennig.
Trydydd cerflun
Dyma fydd y trydydd cerflun i gael ei gomisiynu gan Monumental Welsh Women o ffigwr benywaidd hanesyddol, gyda’r cyntaf – cerflun o Betty Campbell – yn cael ei ddatgelu yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Bydd yr ail gerflun – o Elaine Morgan, y damcaniaethwr a dramodydd – yn cael ei ddadorchuddio yn Aberpennar yn hydref 2022.
“Rydym wrth ein boddau i fedru cyhoeddi comisiynu ein trydydd cerflun o fenyw Gymreig go iawn,” meddai Helen Molyneux o fudiad Monumental Welsh Women.
“Roedd Cranogwen yn fenyw ysbrydoledig ac ymledodd ei henw da a’i dylanwad nid yn unig ledled Cymru ond yn rhyngwladol, ar adeg pan yn anaml y byddai llawer o ferched yn gadael eu pentrefi genedigol.”
Rhaglen
Mae’r fyfyrwraig, Keziah Ferguson – sy’n astudio Cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, wedi cael ei dewis, yn rhan o bartneriaeth arbennig gyda Monumental Welsh Women, i weithio gyda Boyesen ar y prosiect, a derbyn tâl a mentoriaeth dros y cyfnod hwnnw.
Gan ddechrau yn Rhagfyr 2021, bydd hi’n derbyn arweiniad proffesiynol a phrofiad go iawn wrth ddatblygu ei hymarfer drwy weithio ar gomisiwn byw.
“Mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r prosiect yma a chael y cyfle i ddathlu gwaddol Cranogwen,” meddai Keziah.
“Ar ôl cael croeso cynnes yn Llangrannog, rwyf yn hynod o gyffrous i ddechrau gweithio gyda Seb a’r tîm.”