Bydd mwy na £260m yn cael ei fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru fel rhan o’r ymdrechion i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i ymateb i’r pandemig ac i heriau’r dyfodol.

Mae’r buddsoddiad ar gyfer 2022-23 yn gynnydd o 15% o’i gymharu â’r buddsoddiad ar gyfer 2021-22, ac mae’n golygu mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant nag erioed o’r blaen.

Dyma’r wythfed blwyddyn yn olynol i’r arian ar gyfer cefnogi addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd gynyddu yng Nghymru, gyda’r llefydd hyfforddiant ychwanegol yn cynyddu capasiti’r gweithlu i ymateb i heriau’r dyfodol.

Bydd yr arian ar gael i hyfforddi anesthetegwyr, oncolegwyr, gweithwyr gofal dwys, gweithwyr sy’n ymdrin â meddyginiaethau brys, aciwt a diwedd oes, a seiciatryddion.

Mae’n cynnwys £18m ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, £5m ychwanegol ar gyfer llefydd hyfforddiant meddygol, bron i £8m i gefnogi niferoedd y meddygon teulu, a chynnydd net o bron i £3m ar gyfer hyfforddiant i fferyllwyr.

Bydd yn golygu 11 o lefydd ychwanegol i hyfforddi nyrsys oedolion, 73 o lefydd ychwanegol i hyfforddi nyrsys iechyd meddwl, 22 o lefydd i hyfforddi radiolegwyr clinigol a chynnal y nod o 160 o feddygon teulu newydd bob blwyddyn, gyda’r opsiwn o or-recriwtio i 200 pan fo hynny’n bosib.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r llefydd i hyfforddi nyrsys wedi cynyddu o 55.2% a bydwragedd o 96.8%.

‘Dangos ymrwymiad’

“Mae’r buddsoddiad hwn, sef yr wythfed flwyddyn yn olynol o gynyddu’r cyllid i leoedd hyfforddi, yn dangos ein hymrwymiad i wella capasiti’r gweithlu yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaeth iechyd, ac rydyn ni’n hynod falch o’r ffordd mae pawb wedi ymateb er mwyn rhoi gofal i bobl Cymru.

“Mae angen inni barhau i hyfforddi a chryfhau ein gweithlu, er mwyn iddo allu bod yn barod i ymateb i bob math o heriau yn y dyfodol, drwy gryfhau ei allu i wrthsefyll pwysau wrth inni fynd ati i adfer o effeithiau’r pandemig.”

‘Lle gwych i hyfforddi a dysgu’

Dywedodd Prif Weithredwr AaGIC, Alex Howells: “Rydyn ni wrth ein boddau bod y cynllun addysg a hyfforddiant wedi cael y gefnogaeth hon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i weithredu’r argymhellion,” meddai Alex Howells, prif weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Mae Cymru yn lle gwych i hyfforddi a dysgu, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i lawer o’r staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n sefydliadau addysg yng Nghymru am eu cyfraniad gwerthfawr i addysg gweithlu’r dyfodol, a’r cymorth y maent yn ei roi iddynt.”