Mae ymgyrchwyr yn tynnu sylw at y diffyg parch i’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod modd tynnu arian o’r twll yn y wal gan ddefnyddio’r Gymraeg – ond nid y Wyddeleg – yn ninas Belffast, yn ôl gwefan Belfastmedia.com.
Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos hon fod yr opsiwn i ddefnyddio’r Gymraeg ar gael yn y twll yn y wal y tu allan i Swyddfa’r Post ym Mharth y Gaeltacht ac mewn sawl man arall yn y ddinas.
Mae Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge wedi tynnu sylw at y ddeddfwriaeth sydd yn ei lle i warchod y Gymraeg, a bod hynny wedi galluogi cwmnïau preifat i gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Oherwydd cryfder yr iaith Gymraeg, yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o amgylch dwyieithrwydd, a’r cynnydd sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg, rydych chi’n gweld normaleiddio’r iaith, lle mae cwmnïau preifat nawr yn cynnig gwasanaethau iaith Gymraeg,” meddai.
“Maen nhw’n cydnabod fod yna niferoedd enfawr o bobol sy’n mynd i fod yn defnyddio’r gwasanaethau hynny.”
Hawliau eraill
Mae’r erthygl hefyd yn tynnu sylw at wasanaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ar gael yn y Gymraeg.
Yn ôl Conchúr Ó Muadaigh, fydd siaradwyr Gwyddeleg ddim yn cael yr un hawliau o dan ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg sydd i fod i gael ei chyflwyno gan San Steffan.
“Yn 2011, fe wnaeth cyfreithiau iaith Gymraeg sicrhau bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig, yn cael eu darparu yn Gymraeg,” meddai.
“Yr hyn rydyn ni’n ei weld yma yn y Gogledd – oherwydd bod gan yr iaith Gymraeg y ddeddfwriaeth gref honno yn ei lle – yw fod yr ardaloedd lle mae lefelau uchel o siaradwyr Gwyddeleg, maen nhw’n cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ond nid yn y Wyddeleg.
“Tra ein bod ni’n aros i ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg gyrraedd, hyd yn oed yn ôl safonau Degawd Newydd Dull Newydd, rydyn ni’n ymwybodol na fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r materion.
“Mae Degawd Newydd Dull Newydd yn cyfyngu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny y bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno safonau arfer da yr iaith Wyddeleg i gyrff cyhoeddus yma yn y Gogledd.
“Dydy’r cyrff cyhoeddus hynny ddim yn cynnwys gwasanaethau San Steffan.
“Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys archebu prawf Covid, llenwi ffurflen dreth HMRC, a gwasanaethau canolog eraill San Steffan.
“Byddwn ni’n parhau i weld y driniaeth wahanol honno i siaradwyr yr iaith Wyddeleg, hyd yn oed yng nghrombil Parth y Gaeltacht.
“Mae yna rym i’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog i gytuno i ymestyn cylch gorchwyl y ddeddfwriaeth i gynnwys y gwasanaethau hynny, ond o ystyried patrwm y DUP o ran hawliau’r iaith Wyddeleg, mae hynny’n ymddangos yn annhebygol iawn.”