Mae warden Ynys Dewi ger Tyddewi wedi cael ei chydnabod am ei gwaith gydag RSPB Cymru wrth sicrhau bod yr elusen yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.

Mae heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4) yn Ddiwrnod Cadwraeth Bywyd Gwyllt y Byd, ac mae’n dod ddyddiau’n unig ar ôl i waith Nia Stephens, sy’n wreiddiol o Aberteifi, gael cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae Nia yn falch o gael defnyddio’r iaith yn ei gwaith o ddydd i ddydd, a hithau’n un o ddau warden sy’n gwarchod yr ynys am naw mis bob blwyddyn.

“Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i RSPB Cymru, ac i fi,” meddai.

“Mae’n bwysig bod yr RSPB yn cynrychioli Cymru. Mae lot o staff sy’n siarad Cymraeg yn gweithio i’r elusen.

“Fi’n hala lot o e-byst yn Gymraeg. Dwi’n cyfieithu negeseuon cyfryngau cymdeithasol yr ynys i’r Gymraeg; ni’n gwneud popeth yn Gymraeg a Saesneg, a dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn.”

Cwympo mewn cariad

Aeth Nia Stephens i ymweld ag Ynys Dewi gyntaf pan oedd hi’n 20 oed, a chwympodd hi mewn cariad â’r lle.

Mae’n dweud ei bod hi’n gwireddu “breuddwyd” o gael gweithio ar yr ynys erbyn hyn.

“Mae’n gymaint o fraint i mi alw’r Ynys yn gartref i mi” meddai Nia, sy’n tywys ymwelwyr ar deithiau o amgylch Ynys Dewi, sy’n digwydd yn rheolaidd yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf.

“Pan mae’r cwch yn dod, dw i’n siarad gyda’r ymwelwyr, a dw i bob amser yn dechrau’r sgwrs gyda ‘Chroeso i Ynys Dewi. Fy enw i yw Nia.’

“Mae’r bobol sy’n siarad Cymraeg yn gwybod mod i’n gallu siarad yr iaith, ac maen nhw’n siarad Cymraeg gyda fi drwy’r dydd wedyn.

“Dwi’n meddwl bod pobol yn hoffi gallu siarad yn Gymraeg gyda fi am y bywyd gwyllt. Mae e’n gwneud gwahaniaeth i’w dydd nhw.

“Fi’n cael sioc drwy’r adeg, wrth gwrdd â phobol o Dŷ Ddewi sydd erioed wedi bod i Ynys Dewi,” meddai Nia, sy’n dweud fod rhan fwyaf o’i hymwelwyr o Gymru wedi dod o Gaerdydd ac Ynys Môn eleni.

“Mae’r Gymraeg yn rhoi gwell profiad i ymwelwyr fi’n credu. Mae hi’n anodd esbonio pam, bydden i’r un peth, chi’n teimlo’n fwy cyfforddus.

“Mae e’n gwneud i ti deimlo fel bod ti’n rhan o rywbeth. Mae e’n gwneud gwahaniaeth.”

Llongyfarchiadau

“Hoffwn longyfarch RSPB Cymru ar eu Cynnig Cymraeg,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

“Rhaid llongyfarch Nia hefyd, am wella profiad ymwelwyr, ac am genhadu’r iaith i ymwelwyr tu hwnt i Gymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r elusen ymhellach yn y dyfodol, ac yn dymuno’n dda iddynt, wrthynt ddatblygu eu Cynnig Cymraeg.”

Yn ôl Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, fe fu’n “bleser gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg dros y misoedd diwethaf”.

“Rydym yn hynod o falch o dderbyn cymeradwyaeth y Comisiynydd i’n Cynnig Cymraeg,” meddai.

“Fel elusen sy’n gweithredu yng Nghymru, rydym yn teimlo’n angerddol am wasanaethu pobol Cymru yn gwbl ddwyieithog.

“Fel rhan o’r cynllun Cynnig Cymraeg, byddwn yn gweithio i sicrhau ein bod yn cyfathrebu a’n cefnogwyr a’r cyhoedd yn ddwyieithog pob tro, boed hynny trwy gynnwys blogiau a chyfryngau cymdeithasol i arwyddion mewn gwarchodfeydd byd natur.

“Bydd y cynllun yn cryfhau ymhellach ein hymrwymiad i weithredu a gwasanaethu pobol Cymru yn y ddwy iaith.”