Mae adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol fod lluoedd arfog Indonesia wedi bod yn saethu o’r awyr dros Papua, sy’n ceisio ennill ei hannibyniaeth.

Daw’r adroddiadau ddiwrnod yn unig ar ôl i heddlu yn Indonesia gadarnhau eu bod nhw wedi cyhuddo wyth o fyfyrwyr o Papua o frad yn dilyn rali annibyniaeth yr wythnos hon.

Ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 3), roedd Amnest Rhyngwladol yn galw ar yr heddlu i ryddhau’r myfyrwyr, a gafodd eu harestio ddydd Mercher (Rhagfyr 1) ar ôl cymryd rhan mewn rali oedd yn nodi terfyn ar yr Iseldiroedd yn meddiannu Papua yn 1963.

Daeth Papua a Gorllewin Papua o dan reolaeth Indonesia yn 1969 yn dilyn refferendwm a gafodd ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig, er bod nifer fawr o drigolion Papua yn dweud iddo gael ei gynnal yn groes i ddymuniadau’r bobol.

Yn ystod y rali ddydd Mercher, gorymdeithiodd myfyrwyr i swyddfa’r llywodraeth yn Jayapura, prifddinas Papua, a chodi baner annibyniaeth mewn stadiwm.

Cafodd hynny ei gydnabod fel gweithred anghyfreithlon, yn ôl yr heddlu, ond mae cyfreithwyr yn dweud nad oedd cysondeb yn y gyfraith a gafodd ei defnyddio i gyhuddo’r wyth.

Mae 34 o brotestwyr wedi cael eu harestio dros yr wythnos ddiwethaf, gydag 19 o bobol wedi’u hanafu ledled y wlad.

Fe fu sawl brwydr rhwng Indonesia a Papua dros y blynyddoedd.

Yn 2020, cafodd saith o drigolion Papua eu dedfrydu i garchar am frad, tra bod aelod blaenllaw o’r mudiad annibyniaeth yn Papua, Filep Karma, wedi treulio 11 o flynyddoedd dan glo ar ôl codi’r faner ddadleuol, cyn cael mynd yn rhydd yn 2015.