Mae Heddlu Llundain yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod partïon wedi’u cynnal yn Downing Street yn groes i gyfyngiadau Covid-19.

Dywed yr heddlu fod y Blaid Lafur wedi cwyno bod staff wedi cynnal partïon, ar ôl i Neil Coyle a Barry Gardiner, dau aelod o’r meinciau cefn, anfon llythyr yn sôn am eu pryderon.

Mae lle i gredu bod y ddau barti dan sylw wedi’u cynnal cyn y Nadolig y llynedd ar adeg pan oedd ymgynnull mewn grwpiau’n groes i’r rheolau.

Dydy Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ddim wedi gwadu bod y digwyddiadau wedi cael eu cynnal, ond mae’n dweud nad oedd unrhyw reolau wedi cael eu torri er ei fod yn gwrthod cynnig rhagor o eglurhad.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw fel arfer yn ystyried ceisiadau i ymchwilio i ddigwyddiadau o’r fath yn y gorffennol, ond eu bod nhw’n rhoi sylw i’r cais hwn.

Daw hyn ar ôl i’r Daily Mirror adrodd yr wythnos ddiwethaf fod Boris Johnson wedi annerch parti gadael aelod o staff fis Tachwedd y llynedd, ar adeg pan oedd y Deyrnas Unedig yng nghanol ail gyfnod clo.

Maen nhw’n dweud bod staff Downing Street wedi cynnal ail barti Nadolig wedyn, gyda Llundain o dan gyfyngiadau Lefel 3, a bod 40 i 50 o bobol yn bresennol ac wedi’u gwasgu i mewn i ystafell maint canolig yn Downing Street.

Roedd Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, hefyd wedi ysgrifennu at Simon Case, yr Ysgrifennydd Cabinet, yn gofyn iddo ystyried mynd at yr heddlu.