Wrth i brotest Nid Yw Cymru Ar Werth gael ei chynnal yng Nghonwy heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo yn ystod tymor presennol y Senedd.

Cafodd y proclamasiwn ei osod ar adeilad swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.

Maen nhw’n dweud bod angen deddfwriaeth o’r fath “fel bod modd rheoli’r farchnad dai a sicrhau cartrefi i bobol yn eu cymunedau”.

Wrth drydar o’r digwyddiad, dywedodd Ffred Ffransis fod “y Torïaid yn ceisio amddiffyn braint a chyfoeth yn erbyn anghenion pobol leol i gael tai yn eu cymunedau”.

Ychwanegodd wedyn “fod pwysau’n gweithio – DALIWN I BWYSO!”

Cynyddu premiwm treth cyngor

Mae’r sefyllfa ail gartrefi yn Sir Conwy ar hyn o bryd yn “anfoesol” ac yn “anghyfiawn,” meddai un o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith ar drothwy’r brotest ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ddiweddaraf.

Bu effaith ail gartrefi ar brisiau tai yng Nghymru yn daten boeth gydol y flwyddyn a’r wythnos hon roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynegi ei bryder am y sefyllfa.

Mae’r brotest heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4) ar Sgwâr Lancaster yng nghanol tref Conwy wedi cael ei chynnal er mwyn pwyso ar Gyngor Conwy i gynyddu premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 100%.

Daw hyn ar ôl i’r Cyngor wyrdroi penderfyniad i godi’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 50%, a chadw’r premiwm presennol o 25% yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bwriad y premiwm yw annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy mewn cymunedau lleol.

Mae’r premiwm treth cyngor eisoes wedi ei godi i 100% gan gynghorau Gwynedd a Sir Benfro, ac mae Cyngor Ynys Môn hefyd wedi argymell codi eu premiwm presennol ymhellach.

Mae’n debyg bod 1,181 o ail gartrefi wedi eu cofrestru yn Sir Conwy yn 2021/22, sydd yn 5% o holl ail gartrefi Cymru, ac mae hynny’n gwthio prisiau tai i fyny.

Roedd prisiau tai cyfartalog yn y sir wedi codi i dros £227,000 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, gyda phris cyfartalog tŷ teras hyd yn oed yn uwch na £200,000, yn ôl Cymdeithas Adeiladu’r Principality.

‘Anfoesol ac anghyfiawn’

Roedd Cyngor Conwy wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf yn holi barn y cyhoedd a pherchnogion ail gartrefi ar godi’r premiwm.

Cytunon nhw i godi’r premiwm treth cyngor i 50% yn y flwyddyn ariannol, ond yn ddiweddarach, fe wnaeth y pwyllgor trosolwg a chraffu wrthdroi’r penderfyniad.

Bydd y protestwyr ar Sgwâr Lancaster yng Nghonwy yn galw ar y cyngor i gadw at eu penderfyniad gwreiddiol.

Yna, bydd yr ymgyrchwyr yn cerdded at swyddfeydd y Cyngor yng Nghonwy, cyn ymlwybro  i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, i alw arnyn nhw i ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo yn genedlaethol.

‘Amddifadu pobol o’u hawl’

Bu Osian Jones, un o drefnwyr y brotest, yn annerch y dorf yng Nghonwy.

“Mae’r gyfran uchel o ail gartrefi yn y sir a thai a brynir fel buddsoddiadau’n amddifadu llawer o’n pobl ifainc o’r hawl i gael cartref yn eu cymuned eu hunain, ac rydyn ni’n prysur golli cymunedau Cymraeg,” meddai cyn y digwyddiad.

“Mae hyn yn anfoesol, yn anghyfiawn ac yn gosod buddion perchnogion ail gartrefi yn uwch na hawliau pobl i fyw yn eu cymunedau.

“Mae etholiadau awdurdodau lleol fis Mai nesa felly byddwn yn sicrhau fod y mater hwn yn dod yn bwnc o bwys yn yr etholiadau hynny, a byddwn yn targedu’n arbennig y Blaid Geidwadol sydd wedi dangos, yma yng Nghonwy ac yn genedlaethol, eu bod yn cynrychioli braint a grym arian dros angen pobl am gartref.”

‘Problem gynyddol’

Fe siaradodd y Cynghorydd Aaron Wynne, sy’n cynrychioli ward Crwst ar Gyngor Conwy, â golwg360 yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd fod ail gartrefi a thai gwag yn “broblem gynyddol”, a bod peidio â chodi premiwm ar yr un raddfa â chynghorau eraill yn gwneud y sir yn “llawer iawn mwy deniadol i brynu ail dŷ”.

“Mae hi’n ddigon hawdd dweud dydi yng Ngwynedd, lle mae gen ti Ben Llŷn ac Eryri a ballu… ond yng Nghonwy rydyn ni hefyd yn agos iawn at Eryri, rydyn ni’n gweld yr Wyddfa o lefydd fel Capel Curig sydd yn sir Conwy,” meddai.

“Dyda ni ddim yn bell o’r llefydd yma lle mae pobol isio dod i brynu ail dŷ, ac wrth gwrs os ydi o’n rhatach i brynu ail dŷ yng Nghonwy, mae rhywun yn mynd i wneud hynny.

“Mae’r knock-on mae hwnna’n ei gael ar bobol ifanc, teuluoedd ifanc yn cael effaith fawr achos dydi pobol ifanc ddim yn gallu prynu tŷ.

“Mae llawer iawn o’n ffrindiau i wedi symud o’r ardal yn barod i chwilio am waith a chwilio am rywle i fyw, dw i’n dymuno aros yn lleol i fyw a gweithio ond mae hynny’n dod yn fwyfwy amhosib.”

‘Gormod o ail gartrefi’

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae’r ddwy blaid wedi addo “gweithredu’n uniongyrchol a radical i fynd i’r afael â’r llu o ail gartrefi” er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Fe ddywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn gynharach yr wythnos hon ei fod yn poeni am effaith ail gartrefi ar gymeriad cymunedau.

“Rwy’n credu bod hynny’n newid cymeriad y lleoedd hynny,” meddai wrth y BBC.

“Felly, mewn rhai rhannau o Gymru, mae gormod o ail gartrefi, ond mae hynny mewn ardaloedd penodol lle mae angen mathau penodol o atebion.”

“Mae gennym bentrefi cyfan lle mae dros hanner y cartrefi yn cael eu meddiannu dim ond am ran o’r flwyddyn.”