Fydd gwesty yn Abertawe ddim yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches, yn ôl arweinydd y Cyngor Sir.

Mae Rob Stewart wedi ymateb yng nghyfarfod llawn y Cyngor i adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch Gwesty’r Dragon.

Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi gwadu’r honiadau.

Wnaeth Rob Stewart ddim enwi’r gwesty yn ystod y cyfarfod na’r grŵp sydd wedi gwneud yr honiadau.

Ychwanegodd fod y wybodaeth ar-lein yn anghywir a chamarweiniol, gan ddweud na fyddai’r gwesty’n cael ei ddefnyddio at y pwrpas hwnnw.

Dywedodd fod y Cyngor wedi egluro wrth y Swyddfa Gartref nad cynnig llety gwesty yw’r ffordd briodol o geisio cefnogi ceiswyr lloches.

“Rwy’n deall y bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud datganiad yn fuan i gadarnhau trefniadau tebyg,” meddai, gan ychwanegu y dylai’r ddinas ymfalchïo yn ei hanes balch fel dinas noddfa.

Wrth ymateb, fe wnaeth Chris Holley, arweinydd yr wrthblaid ar y Cyngor, a Lyndon Jones, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar y Cyngor, gytuno bod Abertawe’n ddinas “gyfeillgar a chroesawgar”.

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd y Swyddfa Gartref wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol nad oes ganddyn nhw gynlluniau i roi cartref i geiswyr lloches yn y gwesty dan sylw.

“Fe fu nifer o sïon ffug yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y gwesty, ac rydym yn ddiolchgar i gyngor y ddinas am eu cefnogaeth yn y mater,” meddai llefarydd ar ran Gwesty’r Dragon.

“Yn ogystal â datganiad arweinydd y Cyngor, hoffem gadarnhad hefyd fod yr honiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch colli swyddi hefyd yn gwbl anwir.”

Fel cynghorau eraill, mae Abertawe wedi derbyn nifer fach o ffoaduriaid o Affganistan ers i’r Taliban gipio grym dros yr haf, ac mae Rob Stewart yn dweud y bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi pobol sy’n ffoi rhag rhyfeloedd a gwrthdaro.