Mae newyddiadurwr o Gymru sy’n byw yn Awstralia yn dweud bod yna “ddarpar-ffasgwyr ym mhob man”, wrth ymateb i brotestiadau asgell dde ger stiwdios ABC News yn ninas Melbourne.

Aeth miloedd o bobol ati i greu blocâd fel rhan o brotest yn erbyn cyfyngiadau Covid-19 yn nhalaith Victoria.

Roedden nhw’n galw am ddileu bil y pandemig ac i wyrdroi’r mandad ar frechlynnau, gyda rhyw 1,000 o bobool eraill yn cynnal protest debyg yn Perth yng Ngorllewin Awstralia.

Yn y 24 awr hyd at y brotest, roedd naw marwolaeth, gan gynnwys tri oedd wedi bod yn protestio, a 1,365 o achosion newydd.

Yn ôl y bil sydd dan y lach, fe fydd gan arweinydd a gweinidog iechyd Victoria yr hawl i ddatgan pandemig ac i gyflwyno cyfyngiadau.

Cafodd y bil ei basio gydag ambell ddiwygiad.

Ymhlith y rhai fu’n protestio roedd aelod seneddol sydd wedi gadael y Blaid Ryddfrydol ar ôl cael ei geryddu am ledaenu camwybodaeth am Covid-19 ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe fu’n ymddangos yn rheolaidd mewn protestiadau.

Dywedodd nifer o’r siaradwyr mai pwrpas y protestiadau oedd “meddiannu” rhannau o’r strydoedd er mwyn achosi anhrefn a dangos i wleidyddion pa mor anhapus ydyn nhw gyda’r cyfyngiadau a’r ddeddfwriaeth newydd.

Aeth oddeutu 200 o bobol i stiwdios yr ABC, a bu’n rhaid i’r heddlu gynnal blocâd ger y fynedfa wrth i’r protestwyr lafarganu “dywedwch y gwir”, gydag un ohonyn nhw’n mynnu siarad â phenaethiaid y sianel.

Brechu a chyfyngiadau

Mae mwy na 91% o drigolion talaith Victoria sydd dros 12 oed wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 erbyn hyn.

Mae angen prawf o’r ddau ddos neu dystysgrif eithrio er mwyn cael mynediad i leoliadau a busnesau’r dalaith, ar y cyfan.

Does dim dyddiad terfyn i sicrhau bod pobol wedi cael eu brechu’n llawn, ond mae’r llywodraeth wedi awgrymu y gallen nhw gyhoeddi dyddiad yn fuan.

Yn ôl ystadegau, doedd 61% o’r rhai sydd yn yr ysbyty â Covid-19 ddim wedi cael eu brechu’n llawn, ond 90% yw’r ffigwr mewn unedau gofal dwys.