Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd cig oen o’r Deyrnas Unedig yn cael ei allforio i’r Unol Daleithiau unwaith eto o fis nesaf.

Mae adran Defra Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod Adran Amaeth yr Unol Daleithiau wedi addasu’r rheol sy’n atal mewnforio cig oen o’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Bydd y rheol newydd yn dod i rym ar Ionawr 3, gan ddod â’r gwaharddiad ar fewnforio cig oen o’r Deyrnas Unedig, gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Chanada i ben.

Roedd Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi ymrwymo ym mis Medi i ddileu’r gwaharddiad yn dilyn cyfarfod â Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae amcangyfrif y bydd hyn yn golygu hwb o £37m o’r farchnad hon yn ystod y bum mlynedd nesaf.

Ymateb

“Mae agor y farchnad allforio cig oen i’r Unol Daleithiau’n stori lwyddiant enfawr, a bydd hi o fudd mawr i’n diwydiant amaeth,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae ein ffermwyr yn gweithio’n galed, yn ddiwyd ac yn gydwybodol, a chaiff cynnyrch Cymreig ei gydnabod yn briodol iawn ledled y byd am ei safon uchel.

“Rwy’n siŵr y bydd ein cefndryd Americanaidd wrth eu boddau o gael ein cig oen gorau yn ôl ar eu bwydlenni.

“Mae hi nawr yn hanfodol fod llywodraethau Prydain a Chymru’n cydweithio fel bod hyd yn oed mwy o’n cynnyrch ffermwyr gwych yn gallu cyrraedd marchnadoedd newydd, gan gryfhau ein sector amaeth.”