Mae achosion o ffliw adar wedi’u canfod yng Nghrughywel ym Mhowys, a’u cadarnhau gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.

Mae’r safle’n gartref i ieir, hwyaid, gwyddau, twrcwn, ffesantod, elyrch a rheaod ac mae parth diogelu o 3km, parth gwyliadwraeth o 10km a pharth cyfyngedig o 10km wedi’u sefydlu o amgylch y safle.

Mae risg isel i’r cyhoedd yn sgil yr achosion, a does dim perygl i’r gadwyn fwyd ledled y Deyrnas Unedig, gydag achosion tebyg wedi’u canfod yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac ar draws Ewrop.

Daeth mesurau newydd i rym ddechrau’r wythnos i warchod dofednod ac adar rhag y ffliw adar.

Mae perchnogion adar yn cael eu rhybuddio i wylio am arwyddion o ffliw adar, gan gynnwys cyfraddau marwolaeth uwch nag arfer neu broblemau anadlu.

Dylai unrhyw un sy’n poeni am iechyd eu hadar gysylltu â milfeddyg, ac mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â symud adar sydd wedi marw, ac i gysylltu â Defra.

Ymateb

“Mae’r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod cymysg yn dystiolaeth bellach o’r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch,” meddai Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.

“Mae mesurau lletya newydd wedi dod i rym i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o’i gyfuno â gweithredu’r mesurau bioddiogelwch llymaf.

“Dyma’r trydydd achos o ffliw adar sydd wedi’i gadarnhau yng Nghymru hyd yma y gaeaf hwn, sy’n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod ceidwaid adar yn wyliadwrus.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw’n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

“Rhaid rhoi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall.”