Gallai’r hwb mae pobol yn ei gael i’w hiechyd a’u lles o dreulio amser mewn coetiroedd arbed £13m i’r Gwasanaeth Iechyd a chyflogwyr sy’n mynd i’r afael â iechyd meddwl yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.
Daw’r ymchwil yn sgil Wythnos Genedlaethol y Coed, a dyma’r tro cyntaf i sefydliad geisio mesur y budd sydd i bobol o dreulio mwy o amser ymhlith y coed.
Ledled y Deyrnas Unedig, gallai camau o’r fath arbed £185m – £141m yn Lloegr, £26m yn yr Alban a £6m yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn darogan y gallai £14.3bn gael ei wario ar driniaethau iechyd meddwl yn 2020/21.
Er gwaetha’r ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi, mae cwmni Forest Reaseach, sef awduron yr adroddiad, yn disgwyl bod y ffigwr ar gyfer arbedion yn debygol o fod yn sylweddol uwch.
Dydy’r ffigurau ddim yn cynnwys pobol sy’n ymweld â choetiroedd rai misoedd o’r flwyddyn ond nid drwy gydol y flwyddyn.
Mae lle i gredu mai’r ymarfer corff mae pobol yn ei gael wrth gerdded yw un o’r prif fuddiannau, yn ogystal â myfyrio ymhlith y coed.
Ymchwil yn 2016
Roedd yr ymchwil – a gafodd ei gomisiynu gan y Comisiwn Coedwigaeth, Coedwigaeth yr Alban a Llywodraeth Cymru – yn seiliedig ar astudiaeth debyg yn 2016.
Fe ddaeth i’r casgliad fod ymweliad hanner awr â llefydd gwyrdd yn gallu lleihau iselder o 7%.
Fe wnaethon nhw gymharu’r data hwn â data a gafodd ei gasglu trwy arolwg coedwigaeth gan y Forestry Research sy’n cael ei gynnal bob dwy flynedd ers 1995.
Yn 2019, roedd 44% o bobol wnaeth ateb yn dweud eu bod nhw’n ymweld â choetir sawl gwaith bob mis – 37% oedd y ffigwr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a 51% yn yr Alban.
Mae 3.3% o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi cael diagnosis o iselder, 5.9% o orbryder a 7.8% o gyflwr iechyd meddwl amhenodol.
Yn 2020, fe gostiodd £1,640 i drin cleifion ag iselder ar gyfartaledd, a £705 i drin cleifion â gorbryder – mae’r ffigwr yn cynnwys costau ymweliadau â meddygon teulu, presgripsiynau, gofal cleifion mewnol, gwasanaethau cymdeithasol a nifer y diwrnodau gwaith sy’n cael eu colli.
Mae plannu coed ar strydoedd yn gallu arbed hyd at £16m oddi ar gostau trin salwch iechyd meddwl bob blwyddyn, ac mae darogan y bydd £11bn yn cael ei arbed dros y ganrif nesaf drwy ymweld â choetiroedd, gyda phlannu coed ar strydoedd yn arbed £1bn yn rhagor.
Ymateb
“Mae treulio amser yn yr awyr agored – yn enwedig mewn coetiroedd neu ger dŵr – yn gallu helpu gyda phroblemau iechyd meddwl megis gorbryder ac iseldir ysgafn neu gymhedrol,” meddai Stephen Buckley, pennaeth gwybodaeth yr elusen Mind.
“Er bod nifer ohonom yn teimlo fel gaeafgysgu yn y gaeaf, mae mynd allan i diroedd gwyrdd a gwneud y mwyaf o’r ychydig olau haul rydyn ni’n ei gael wir yn gallu bod o fudd i’ch iechyd corfforol a meddyliol.”
Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Syr William Worsley, cadeirydd y Comisiwn Coedwigaeth.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor hanfodol yw buddsoddi mewn coed a choetiroedd iach,” meddai.
“Mae’n gwneud synnwyr yn feddygol, oherwydd fe fydd yn golygu gwell iechyd i bawb; synnwyr economaidd drwy arbed miliynau o bunnoedd i’r gymdeithas; ac mae’n gwneud synnwyr yn amgylcheddol, gan ein helpu ni i fynd i’r afael â heriau deublyg newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.”