Mae perchennog sinema annibynnol yn Abertawe sy’n gwrthod gweithredu pasys Covid ar gyfer ei chwsmeriaid wedi cael ei henwebu ar gyfer ‘Prydeiniwr yr Wythnos’ ar GB News.

Mae’r sinema wedi cyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae panel o dri o bobol yn trafod pwy ddylai gael y wobr.

Cafodd hi ei henwebu ochr yn ochr â David Blunkett, cyn-weinidog yn y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, sy’n dweud bod yna ormod o bobol ‘woke’ yn y byd, a Jess Phillips, yr aelod seneddol Llafur sydd wedi beirniadu’r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock yr wythnos hon tros gyflenwadau PPE.

Cafodd Anna Redfern ei henwebu gan Dominique Samuels, cyn-ymgeisydd ar gyfer rôl Maer Llundain, sy’n dweud bod ei “hymgyrch i gadw’r sinema ar agor yn arwrol”.

“Sinema annibynnol yw hi ac yng nghanol y cynllun pasbortau brechu sydd wedi cael ei lansio yng Nghymru, oherwydd gorchymyn llys, mae hi wedi cael ei gorfodi i gau ei busnes er gwaethaf ymdrechion i’w gadw ar agor,” meddai Dominique Samuels.

“Ond roeddwn i jyst eisiau rhoi fy nghefnogaeth oherwydd mae pasbortau brechu yn gwahaniaethu, maen nhw’n anghyfiawn a dw i mor falch fod perchnogion busnesau allan yno yn ceisio brwydro yn erbyn hyn, er nad ydyn nhw’n elwa ryw lawer.”

Wrth ymateb i’r enwebiad, dywedodd Anna Redfern ei bod hi’n “wych cael enwebiad ar gyfer y Prydeiniwr gorau ar @gbnewsonline ddoe ac yn wych gweld yr holl gefnogaeth gan y rheiny sy’n effro i’r hyn sy’n digwydd”.

Mae’r neges ar Instagram wedi cael ei hoffi dros 200 o weithiau, ond mae nifer o bobol ar Twitter yn dweud “nad yw cael enwebiad gan GB News yn rhywbeth i fod yn falch ohono”.

Cefndir

Cafodd Anna Redfern ddirwy o £5,265 gan lys yr wythnos ddiwethaf am wrthod cau yn sgil gorchymyn Covid-19.

Aeth hi gerbron ynadon y ddinas ddydd Mawrth (Tachwedd 30) ar ôl iddi wrthod gweithredu pasys Covid.

Cyngor Dinas a Sir Abertawe oedd wedi dwyn achos, ar ôl i’r sinema wrthod cau er iddyn nhw gael gorchymyn i wneud hynny am nad oedden nhw’n cadw at y cyfyngiadau drwy ofyn i gwsmeriaid ddangos eu pasys cyn cael mynediad.

Clywodd y llys nad oedden nhw wedi cwblhau asesiad risg digonol er mwyn atal ymlediad y feirws, nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i’w staff pa gamau i’w cymryd, nad oedd y sinema yn gofyn i gwsmeriaid wisgo mygydau neu i ddilyn unrhyw gamau eraill i’w cadw’n ddiogel.

Doedd gan y lleoliad ddim hylifau glanhau digonol.

Yn ôl y gorchymyn, roedd disgwyl i’r sinema gau am 56 diwrnod neu hyd nes bod tystiolaeth eu bod nhw wedi cymryd camau digonol er mwyn atal ymlediad Covid-19.

Yn sgil yr achos, mae cyhoeddusrwydd i achos y sinema wedi arwain at greu tudalen codi arian i’r sinema, ac mae wedi denu dros £61,000 hyd yn hyn – bron i ddeuddeg gwaith eu dirwy.

Mae hi wedi cael gwybod y gallai hi wynebu cyhuddiad o ddirmyg llys pe bai hi’n parhau i anwybyddu dyfarniad y llys.

Mae’r sinema wedi parhau i hysbysebu digwyddiadau, gan gynnwys dangos y ffilmiau The Grinch a The Muppets, ac maen nhw’n defnyddio llun o Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, i’w hysbysebu.

Mae Cyngor Abertawe bellach yn dweud eu bod nhw’n adolygu’r grantiau Covid sydd wedi cael eu rhoi i’r sinema yn ystod cyfyngiadau Covid-19.

Mae’n bosib, felly, y bydd rhaid i Anna Redfern ad-dalu cyfran o’r £53m mae’r sinema wedi’i dderbyn gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru i’w helpu i barhau i weithredu yn ystod cyfyngiadau symud.

Cinema & Co Abertawe

Sinema’n dangos ffilm Nadoligaidd yn groes i orchymyn llys

Mae Cinema & Co yn Abertawe’n parhau i wrthod gweithredu pasys Covid ar ôl i’r perchennog Anna Redfern fod gerbron llys
Cinema & Co Abertawe

Dirwy o £5,265 i berchennog sinema am wrthod cau fel rhan o orchymyn am dorri rheolau Covid-19

Aeth Anna Redfern gerbron ynadon heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30)