Mae cynghorydd o Wynedd wedi rhybuddio y gallai gadael i gwmnïau mawr brynu tir amaeth i dyfu coed agor y drws ar “y Tryweryn nesaf”.
Mae cynlluniau plannu coed diweddar wedi bod yn ddadleuol, gan fod cwmnïau o dramor, sy’n ceisio lleihau eu hôl-troed carbon, yn gwneud hynny drwy brynu tir amaeth a thyfu fforestydd.
Yn ôl y ffermwr a’r Cynghorydd dros ward y Bermo, Gethin Glyn Williams, dylai amodau cynlluniau ariannu amaethyddol gael eu newid er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus ddim yn mynd allan o’r wlad.
Fe wnaeth cynghorwyr gefnogi ei gynnig yn unfrydol yng nghyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau, 2 Rhagfyr, wythnos yn unig ar ôl i Gyngor Sir Gâr gefnogi cynnig tebyg.
‘Y Tryweryn nesaf’
Yn y cyfarfod ddydd Iau, fe gyflwynodd y Cynghorydd Gethin Glyn Williams ei gynnig i’w gyd-gynghorwyr.
“Dros y canrifoedd mae tiroedd ac adnoddau Cymru wedi cael eu defnyddio i echdynnu pob math o nwyddau er budd eraill,” meddai.
“Y ‘nwydd’ diweddaraf sy’n cael eu manteisio arnyn nhw o’n tirwedd yw’r potensial mewn carbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o du allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau Glastir – Creu Coetir, ac yn defnyddio’r tir ar gyfer coedwigo i wrthbwyso eu hallyriadau carbon.”
Fe ategodd ffermwr arall, y Cynghorydd John Pughe Roberts, at ddadl ei gyd-gynghorydd.
“Rydw i wedi codi hyn o’r blaen gyda’r Parc Cenedlaethol,” meddai.
“Hyn fydd y Tryweryn nesaf oni bai ein bod ni’n gwneud rhywbeth ar frys.
“Mae llawer o’r tir yng nghanolbarth Cymru sydd wedi cynnal teuluoedd yn mynd i ddwylo tramor.
“Rydw i’n cefnogi’r cynnig hwn gant y cant, a’n gobeithio bydd rhywbeth yn cael ei wneud cyn y bydd hi’n rhy hwyr.”
‘Awyddus i osgoi buddiannau allanol’
Gyda’r cynnig nawr yn gorfodi’r awdurdod i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i leisio pryderon, bydd galw ar weinidogion i sicrhau bod mwy o bwerau yn cael ei datganoli, fel bod modd i awdurdodau cynllunio reoli prosiectau coedwigo yn fwy llym.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw am lansio ymgynghoriad i’w cynllun Coedwig Genedlaethol, sydd am weld miloedd o goedwig yn cael eu plannu i wella safon yr aer a lleihau nwyon tŷ gwydr.
“Mae angen i ni blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd hwn os ydyn ni am gyrraedd y nod o allyriadau carbon ‘sero net’ erbyn 2050,” meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
“Pe bai hyn yn cael ei reoli’n briodol, byddai’n cynnig cyfle sylweddol i’r economi wledig i greu swyddi a sgiliau gwyrdd wrth gynaeafu pren ar gyfer nwyddau gwerth uchel.
“Rydyn ni’n awyddus i osgoi buddiannau allanol wrth brynu tir ac rydyn ni am weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru i gyflawni hyn.”