“Mae’n rhaid gweithio gyda’r gymuned amaethyddol, nid yn ei herbyn” wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd – dyna neges Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i Lywodraeth Cymru.
Bu’r Lib Dem Jane Dodds yn codi pryderon yn y Senedd yr wythnos hon am ffermwyr yn cael eu dirwyo am blannu coed yn rhy agos at ei gilydd.
Tynnodd sylw hefyd at bryderon eraill sydd gan ffermwyr a chyfarwyddwyr undeb amaethyddol, ynghylch cwmnïau mawr yn prynu tir yng Nghymru, drwy un o raglenni Llywodraeth Cymru, er mwyn plannu coed i wrth-bwyso eu hallyriadau carbon.
Yn ôl Jane Dodds, mae ffermwyr yn cael eu “cosbi am wneud y peth iawn”, a gofynnodd i Lywodraeth Cymru am yr hyn maen nhw wedi’i dysgu gan y rhaglen.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, mai ei “hamcan yw symleiddio cymorth i ffermydd yn y dyfodol”.
“Dysgu gwersi”
“Rwy’n pryderu’n ddifrifol bod cyfran yr ymgeiswyr i gynllun Glastir gyda chyfeiriadau y tu allan i Gymru wedi cynyddu tair gwaith rhwng Medi 2019 a Thachwedd 2020, tra bod ffermwr ym Mhowys wedi cael ei gosbi am geisio gwneud y peth iawn,” meddai Jane Dodds wrth gwestiynu’r Gweinidog.
“Mae gweithio gyda’r gymuned amaethyddol yn hytrach nag yn ei herbyn yn gwbl hanfodol os ydym am frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a diogelu harddwch naturiol eithriadol Cymru.”
Wrth ymateb fe ddywedodd Lesley Griffiths ei bod yn bwriadu “symleiddio’r cymorth” sydd ar gael i ffermwyr.
“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu gwersi, ac, er nad yw’n bosibl gwneud newidiadau i’r cynlluniau presennol sydd gennym, fy amcan yw symleiddio ein cymorth i ffermydd yn y dyfodol,” meddai.
“Yn amlwg, wrth inni ddod â chynllun ffermio cynaliadwy a disodli’r rhaglen ddatblygu gwledig, mae’n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid, rwy’n credu, wrth eu cyd-gynllunio, fel eu bod yn llai biwrocrataidd a symlach.”
Sawl amaethwr yn anesmwytho
Yn ddiweddar, dywedodd Cyfarwyddwr Undeb yr Amaethwyr, John Mercer, wrth gylchgrawn Golwg fod yna “gwestiynau moesegol” yn codi o ran defnyddio tir Cymru ar gyfer plannu coedwigoedd er mwyn galluogi i gwmnïau mawrion leddfu eu hôl troed carbon.
Mae’n debyg bod sawl fferm yn yr ardal rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin wedi mynd i ddwylo Foresight Group, sydd wedi’u lleoli yn Llundain, ac yn ôl John Mercer, mae gan hyn oblygiad i gynhyrchiant bwyd hefyd.
“Y peth olaf ddylen ni ei wneud nawr yw cau Cymru i lawr o ran cynhyrchu ein bwyd ein hunain,” meddai John Mercer, “a gorfod mewnforio bwyd o wledydd sydd heb yr un safonau o ran yr amgylchedd ac sydd gyda ni yma”.
Mae cynghorwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi codi’r un pryderon, gan ddweud “nad yw bwyd yn mynd i fwydo ein trigolion”.
Yn ôl Plaid Cymru, maen nhw wedi gweld tystiolaeth sy’n dweud bod y llywodraeth wedi cytuno ar naw cytundeb gwerth £1,306,561 i ymgeiswyr o’r tu allan i Gymru, dan y rhaglen.
Dylai unrhyw blannu er mwyn lleddfu ôl troed carbon gael ei wneud er budd cymunedau, yr iaith, a’r diwylliant, meddai eu galwad.