Mae Plant Mewn Angen wedi codi dros £39m at elusennau eleni, gyda’r dyn tywydd o Gymru, Owain Wyn Evans, yn codi £3.6m o’r cyfanswm hwnnw ar ei ben ei hun drwy ei her ddrymio 24 awr.

Fel rhan o’r her, fe fu’n drymio ddydd a nos, gyda nifer o enwogion eraill yn ei gynorthwyo, gan gynnwys Harry Judd (McFly), Nick Banks (Pulp), a Cherisse Osei (Simple Minds).

Mae’r digwyddiad elusennol blynyddol wedi’i gynnal ers 41 o flynyddoedd bellach, ac roedd y sioe fawr ar y BBC yn serennu Abba, yr actor Stephen Fry, y ddawnswraig Oti Mabuse, y seren gymnasteg Olympaidd Max Whitlock, a’r ddarlledwraig Clare Balding.

Ymhlith y perfformwyr cerddorol roedd Ed Sheeran, Tom Grennan a sêr y gyfres deledu RuPaul’s Drag Race.

Fe fu Alex Scott, Chris Ramsey ac Ade Adepitan yn cyflwyno’r rhaglen yn ystod y noson hefyd.

Y gân elusennol eleni oedd Everywhere gan Fleetwood Mac, a chafodd ei pherfformio gan Niall Horan ac Anne-Marie, gyda’r fideo hefyd yn serennu Ed Sheeran, Lewis Capaldi, Griff a Yungblud.

Fe fu’r darlledwr o Gymru, Jason Mohammad yn cystadlu â’i gyd-newyddiadurwyr Kate Silverton a Mike Bushell mewn fersiwn arbennig o’r rhaglen I Can See Your Voice.

Daeth cyhoeddiad ar ddiwedd y noson gan y cyflwynwyr Graham Norton a Mel Giedroyc fod cyfanswm o £39,389,048 wedi’i godi eleni.